大象传媒

Cyflwyno'r Fedal Wyddoniaeth i Deri Tomos

  • Cyhoeddwyd
Deri Tomos
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Deri Tomos yn cael ei anrhydeddu am gyfraniad oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae'r Athro Deri Tomos wedi derbyn y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg mewn seremoni ar faes y Brifwyl ddydd Iau.

Mae'r fedal yn cael ei chyflwyno iddo am ei gyfraniad oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'n adnabyddus am ei gyfraniadau i gynlluniau gradd ym meysydd Biocemeg, Bioleg a Biofeddygaeth, ac roedd yn gyfrifol am ddatblygu rhannau helaeth o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg y graddau.

Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae nawr yn byw yn Llanllechid yng Ngwynedd, a bu hefyd yn treulio cyfnodau'n ymchwilio dramor, yn Adelaide, Utah a Heidelberg.

Disgrifiad,

Y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg er Anrhydedd / Science and Technology Medal

'Angen astudio gwyddoniaeth yn Gymraeg'

Mae'n wyneb a llais adnabyddus ar y cyfryngau, ac wedi ysgrifennu erthyglau, colofnau ac erthyglau i esbonio ar gyfer Wicipedia.

"Mae'n anrhydedd aruthrol. Mae 'na gewri wedi ennill y wobr yma," meddai.

"Dwi mor falch, ers rhyw genhedlaeth bellach, bod gwyddoniaeth yn rhan o'r Steddfod. Felly dwi'n falch dros wyddonwyr Cymru, a dwi'n teimlo 'mod i'n derbyn y wobr yn eu henw nhw."

Dywedodd mai'r frwydr nawr yw sicrhau bod disgyblion Cymru yn astudio gwyddoniaeth yn Gymraeg

"Ar lefel TGAU 'da ni'n dal i ymladd y frwydr i drio perswadio pobl nad oes angen newid i'r Saesneg i wneud Lefel A," meddai.

"Does gen i ddim amynedd am bobl sy'n teimlo bod rhaid colli eu mamiaith er mwyn troi'n wyddonwyr.

"Mae Cymraeg yn rhan o wyddoniaeth ac mae gwyddoniaeth yn rhan o'r Gymraeg.