Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Angen i Blaid Cymru 'wella'i g锚m' medd Simon Thomas
- Awdur, Cemlyn Davies
- Swydd, Gohebydd gwleidyddol 大象传媒 Cymru
Dydy carfan Plaid Cymru yn y Cynulliad "ddim yn perfformio fel y gallai ei wneud" ac mae angen iddi "wella'i g锚m," yn 么l un o Aelodau Cynulliad y blaid.
Daeth sylwadau Simon Thomas yn sgil cwestiynau newydd am arweinyddiaeth Plaid Cymru a galwadau ar i'r arweinydd presennol ildio'r awenau.
Ar faes yr Eisteddfod dywedodd yr Aelod Cynulliad dros Ynys M么n, Rhun ap Iorwerth y byddai e'n ystyried ceisio olynu Leanne Wood ar 么l iddi hi roi'r gorau i'r swydd.
Yna dywedodd un arall o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru - nad oedd am gael ei enwi - ei bod hi'n bryd i'r blaid gynnal ras arweinyddiaeth a bod Ms Wood wedi colli awdurdod o fewn y gr诺p ym Mae Caerdydd.
'Ddim cystal 芒 gallen ni fod'
Dywedodd Mr Thomas: "Be fyddwn i'n licio i'r blaid ganolbwyntio arno nawr yw'r cwestiwn arweinyddol sydd gennym ni sydd ddim yn troi o gwmpas un person fel arweinydd ond y cwestiwn, 'a ydyn ni'n perfformio fel gr诺p Cynulliad cystal 芒 gallwn ni fod?'
"Dwi ddim yn meddwl ein bod ni, felly mae'n rhaid i ni - bob un ohonon ni - wella'n g锚m."
Dywedodd yr aelod dros y Canolbarth a'r Gorllewin hefyd ei bod hi'n naturiol bod cwestiynau am arweinyddiaeth yn codi rhwng etholiadau.
"Mae hwnna jest mor amlwg i fi," meddai.
"Dyw hwnna ddim yn dweud unrhyw beth o blaid neu yn erbyn unrhyw berson, mae e jest yn amlwg bod hwnna'n mynd i fod yn rhan o'r drafodaeth.
"Os oes rhywun yn teimlo y gallen nhw fod yn well arweinydd na Leanne Wood, dylen nhw sefyll a defnyddio prosesau'r blaid i wneud hynny'n hytrach na dweud pethau'n ddienw."