Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cytundeb i newid pensiynau gweithwyr dur Tata
Mae'r rheoleiddwyr pensiynau wedi cymeradwyo cynllun i ailstrwythuro pensiynau Dur Prydain wrth i ymdrechion barhau i sicrhau dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru.
Roedd cwmni dur Tata wedi pwyso ar y rheoleiddwyr a'r undebau llafur i newid y cynllun pensiwn fel rhan o gytundeb ehangach i ailstrwythuro costau'r cwmni.
Yn gynharach roedd ofnau y gallai'r cwmni fynd yn fethdal, gan fygwth dyfodol swyddi 3,500 o weithwyr ym Mhort Talbot.
Mae'r cytundeb yn datgysylltu Cynllun Pensiwn Dur Prydain oddi wrth cwmni Tata.
Uno gwaith dur
Bydd Tata yn talu 拢550m i'r gronfa bensiwn ac yn rhoi cyfran ecwiti o 33% yn Tata Steel UK i'r gronfa.
Mae disgwyl i'r cytundeb baratoi'r ffordd i Tata wneud cytundeb ehangach i uno eu gwaith cynhyrchu dur yn Ewrop gyda'r cwmni Almaeneg Thyssen Krupp.
Bydd y cytundeb yn diogelu dyfodol cynhyrchu dur ym Mhort Talbot, ond fe fydd pensiynwyr Dur Prydain yn derbyn gostyngiad yn eu taliadau pensiwn.
Mae disgwyl i Tata fuddsoddi 拢1bn ym Mhort Talbot yn dilyn y cytundeb.