大象传媒

Cymru'n 'tyfu'n or-ddibynnol ar fanciau bwyd'

  • Cyhoeddwyd
Banc Bwyd EastsideFfynhonnell y llun, Banc Bwyd Eastside
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu'n rhaid i fanc bwyd Eastside yn Abertawe wneud ap锚l am fwy o gyfraniadau

Mae gan Gymru "broblemau unigryw" yngl欧n 芒 thlodi ac mae'n tyfu'n or-ddibynnol ar fanciau bwyd, yn 么l cyfarwyddwr elusen.

Mae Tony Graham o Ymddiriedolaeth Trussell eisiau i Lywodraeth Cymru helpu ffurfio cynlluniau i atal pobl rhag mynd i "argyfwng".

Rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2017 fe wnaeth yr elusen ddosbarthu 60,387 o becynnau bwyd i oedolion a 34,803 i blant yng Nghymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio i "helpu pobl allan o dlodi".

Fe wnaeth y pecynnau brys gafodd eu dosbarthu gan Ymddiriedolaeth Trussell godi o 79,049 yn 2013-14 i 85,875 yn 2014-15, cyn gostwng ychydig i 85,656 yn 2015-16.

Ond fe wnaeth y ffigwr godi 11% i 95,190 yn 2016-17.

'Bregus'

Dywedodd Mr Graham, cyfarwyddwr gwledydd datganoledig yr elusen, bod Cymru "ar y blaen" i lywodraethau eraill y DU yn mynd i'r afael 芒 thlodi bwyd, gyda chynlluniau fel prydau ysgol am ddim.

Ond ychwanegodd bod toriadau a newidiadau i fudd-daliadau wedi taro Cymru'n waeth na rhannau helaeth o Loegr.

Yn y naw mlynedd diwethaf mae Ymddiriedolaeth Trussell wedi agor 36 o fanciau bwyd yng Nghymru.

Ond dywedodd Mr Graham bod asiantaethau gofal a chymdeithasau tai yn gynyddol yn sylweddoli ar lefydd ble mae angen rhagor o gefnogaeth.

"Y myth yw mai pobl sy'n osgoi gweithio ac yn y blaen sy'n defnyddio banciau bwyd, ond mae llawer o bobl sy'n gweithio'n galed mewn argyfwng," meddai.

"Mae'r DU gyfan yn fregus, ond mae gan Gymru rhai problemau unigryw - creu swyddi, Brexit er enghraifft - a does neb wir yn gwybod beth fydd effaith hynny."

Daeth yr heriau sy'n wynebu banciau bwyd i'r amlwg fis diwethaf, pan wnaeth un sefydliad yn Abertawe redeg allan o fwyd.

Awgrymodd y gwirfoddolwyr mai'r gwyliau ysgol oedd y rheswm, gyda dim prydau bwyd am ddim i blant yn y cyfnod yma.

Disgrifiad,

Mae Huw Evans, sy'n gwirfoddoli ym Manc Bwyd Pontardawe, wedi gweld y galw'n dyblu dros wyliau'r haf

Fe wnaeth Mr Graham ganmol cynllun gwerth 拢500,000 gan Lywodraeth Cymru i ddarparu prydau am ddim dros wyliau'r haf yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad.

Cafodd y cynllun ei gyhoeddi ym mis Ionawr, ac mae wedi ei lansio yn swyddogol gan yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams ddydd Mawrth.

'Amser anodd'

Dywedodd Ms Williams wrth ymweld ag Ysgol yr Eglwys yng Nghymru yn Llandrindod: "Mae'n ffaith drist fod gwyliau'r haf yn gallu bod yn amser anodd i rai o'n pobl ifanc.

"Mae plant sy'n elwa ar frecwast a chinio am ddim yn aml yn methu prydau ac yn teimlo'n llwglyd unwaith y bydd eu hysgolion yn cau am y gwyliau.

"Mae'r hyn rydw i wedi'i weld heddiw wedi fy nghalonogi'n fawr a hoffwn longyfarch pawb sy'n rhan ohono am y profiad cyfoethog sy'n cael ei gynnig.

Ond dywedodd Mr Graham ei fod eisiau i elusennau a grwpiau cymunedol rannu eu harbenigedd i helpu datblygu'r cynllun.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Tony Graham bod "llawer o bobl sy'n gweithio'n galed mewn argyfwng"

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn cydnabod y r么l mae banciau bwyd yn ei chwarae yn "helpu pobl sy'n profi tlodi".

"Rydyn ni'n gweithio'n galed i gynyddu llewyrch i bobl yng Nghymru a helpu pobl allan o dlodi."

Ychwanegodd bod "creu swyddi, cau'r bwlch o ran cyrhaeddiad addysgol a chynyddu lefelau sgiliau yn flaenoriaethau".