大象传媒

Y Cymry'n cofio Elvis

  • Cyhoeddwyd
Un o ddynwaredwyr Elvis yn perfformio yng Ng诺yl Elvis ym Mhorthcawl yn 2014
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un o ddynwaredwyr Elvis yn perfformio yng Ng诺yl Elvis ym Mhorthcawl yn 2014

Ble roeddech chi pan fu farw 'Brenin Roc a R么l'? 40 mlynedd i heddiw, ar 16 Awst 1977, bu farw Elvis Presley yn Graceland.

Prin iawn yw cysylltiadau Cymreig y canwr o Memphis ond erbyn hyn mae dwsinau o'i ddynwaredwyr yn tyrru bob blwyddyn i Borthcawl ar gyfer G诺yl Elvis.

Ymhlith y ffans sydd wedi rhoi cynnig ar ddynwared eu harwr mae Chris Jones, dyn tywydd S4C.

Fe wnaeth e raglenni arbennig am yr 诺yl ar gyfer S4C a Radio Cymru ddwy flynedd yn 么l.

"Wrth dyfu lan yn Aberaeron, o'dd Mam a Dad yn chwarae recordiau trwy'r amser, gan gynnwys recordiau Elvis," meddai. "Dyna pryd nes i ddechrau gwrando go iawn ac yn gwerthfawrogi ei gerddoriaeth a'i ddelwedd, ac yna yn hwyrach ei ffilmiau. Felly ers yn gynnar iawn mae Elvis wedi bod yn rhan o'm mywyd i."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Chris Jones yn dynwared ei arwr

'Elvis' enwocaf Cymru?

Ar un adeg dynwaredwr Elvis enwocaf Cymru oedd Peter Singh o Abertawe. Gan ei fod e'n arddel crefydd y Sikh roedd e'n perfformio caneuon ei arw gyda'r tyrban ar ei ben.

Cafodd ei wefreiddio gan Elvis yn fachgen 10 oed ar 么l gweld ffilm Jailhouse Rock mewn sinema yn Birmingham ble roedd ei deulu yn byw ar y pryd.

Roedd Peter hefyd yn addasu caneuon Elvis ac ymysg ei glasuron oedd Bhindi Bhaji Boogie, Turbans Over Memphis, My Popadum Told Me a Who's Sari Now?

Symudodd ei deulu i Abertawe ac un noson tra roedd yn dawnsio mewn clwb, gofynnodd yr MC iddo ganu c芒n ac mi ganodd Blue Suede Shoes... a dyna oedd dechrau gyrfa ddisglair.

Roedd e'n gweithio ym marchand Abertawe pan glywodd am farwolaeth Elvis:

"Wrth i mi agor ein stondin, ddaeth cymydog lan ata'i a dweud fod hi am ddweud rhywbeth wrtha'i fyddai'n torri dy galon. A mi dd'wedodd fod Elvis, y brenin, y chwedl, wedi marw.

"Dwi'n dal yn methu credu bod e wedi marw... ac mewn ffordd, dyw e ddim. Achos mae'r atgofion ohono yn byw am byth."

Teyrnged barhaol

Os ydych chi'n teithio yn rheolaidd ar yr A44 yn y canolbarth mae'n bosib y byddwch chi yn dechrau hymian un o ganeuon Elvis ar 么l pasio'r garreg enwog hon ger Eisteddfa Gurig...

Erbyn hyn mae llun o'r graig gan yr artist lleol Wynne Melville Jones i'w gweld yn Graceland.