大象传媒

Targed i ailgylchu mwy o fwyd a lleihau gwastraff

  • Cyhoeddwyd
Gwastraff

Bydd targed newydd i haneru faint o fwyd sy'n cael ei wastraffu yng Nghymru erbyn 2025 yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddarach.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Lesley Griffiths y byddai'n ymgynghori ar gynlluniau i leihau gwastraff o 50% o'i gymharu 芒'r lefelau yn 2006-07.

Er nad yw hyn yn darged statudol, mae ganddo'r potensial i fod ymysg y mwyaf uchelgeisiol o ran gwastraff bwyd yn y byd.

Fe gytunodd yr UE yn ddiweddar i haneru gwastraff bwyd erbyn 2030, ac mae gan yr UDA darged tebyg.

'Gwelliannau'

Y bwriad yw sicrhau bod mwy o fwyd yn cael ei ailgylchu yn hytrach na mynd i safleoedd tirlenwi ond hefyd lleihau faint sy'n cael ei daflu yn y lle cyntaf.

Yr Alban oedd y wlad gynta' yn y DU i gyflwyno targed gwastraff bwyd, sef lleihad o 33% erbyn 2025.

Mae ymgyrchoedd marchnata, cynllun bagiau cludo 'doggy bag' ar gyfer bwytai, a deddfwriaeth wedi eu cyflwyno fydd yn gorfodi awdurdodau lleol i ddarparu pwyntiau ailgylchu bwyd.

Bydd Ysgrifennydd Amgylchedd Llywodraeth yr Alban, Roseanna Cunningham yn ymweld 芒 de Cymru yn hwyrach i gwrdd 芒'i chydymaith yn Llywodraeth Cymru a chymharu profiadau'r ddwy wlad.

Mae Cymru yn arwain y ffordd o ran gweddill y DU o ran ailgylchu, yn ail o ran tablau Ewrop ac yn drydydd yn y byd.

Daw'r cyhoeddiad wythnos cyn cyhoeddi'r ffigyrau ailgylchu am y flwyddyn a fu, gyda Llywodraeth Cymru'n disgwyl gweld gwellhad yng ngraddfa'r llynedd o 60%.

Mae hynny'n cymharu 芒 43.9% yn Lloegr a 44.2% yn yr Alban.

'Lle i wella'

Ond mae Lesley Griffiths yn mynnu bod gwastraff bwyd yn parhau'n faes lle "gellid gwneud gwelliannau".

Yn 么l ffigyrau diweddara'r sefydliad Wrap Cymru, cafodd oddeutu 拢550m o fwyd bwytadwy ei daflu o gartrefi yng Nghymru yn 2015.

Er hynny roedd gwastraff bwyd wedi gostwng yma o'i gymharu 芒 gweddill y DU.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Lesley Griffiths yn cwrdd a Roseanna Cunningham o'r Alban i gymharu sefyllfaoedd y ddwy wlad

Daeth y cwmni nid-er-elw i'r casgliad bod lefelau'r bwyd oedd yn cael ei daflu gan bob person wedi gostwng 12% rhwng 2009 a 2015, a'i fod nawr yn llai na gweddill y DU o tua 9%.

Gallai'r "lleihad sylweddol" yma fod o ganlyniad i lefelau incwm llai a'r ffaith bod cynghorau lleol yma'n well am gasglu gwastraff bwyd ar wah芒n, yn 么l Wrap Cymru.

Mae 90% o awdurdodau lleol Cymru yn defnyddio biniau gwastraff bwyd ar wah芒n, o'i gymharu gyda dim ond 27% ar draws y DU.

Y gred yw bod gorfodi teuluoedd i wahanu eu gwastraff bwyd rhag gweddill eu sbwriel yn eu hannog i feddwl ddwywaith cyn taflu bwyd yn y lle cyntaf.

"Petai ond hanner y bwyd a'r sbwriel sych sydd i'w ddarganfod mewn biniau Cymru yn cael ei ailgylchu, byddai Cymru yn cyrraedd ei tharged o ailgylchu 70% o wastraff erbyn 2025 naw mlynedd yn gynnar," meddai Ms Griffiths.

"Bydd yr ymgynghoriad dwi'n bwriadu ei lansio yn edrych ar y potensial o haneru gwastraff bwyd erbyn 2025. Mae'n darged uchelgeisiol ond dwi'n gwybod o'n perfformiad ailgylchu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, pan fyddwn ni'n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a theuluoedd mae modd i ni wneud pethau sy'n peri'r byd i dalu sylw."

Wrth gwrdd mewn canolfan ailgylchu yng Nghasnewydd yn ddiweddarach, bydd y ddau weinidog yn pwysleisio ardaloedd lle mae'r ddwy lywodraeth ddatganoledig wedi gosod targedau mwy uchelgeisiol na llywodraeth Prydain ar faterion amgylcheddol megis trin gwastraff.

Brexit

Fe fyddan nhw'n datgan eu bwriad i weithio ar y cyd i "wrthwynebu" unrhyw ymgais i gadw grymoedd dros faterion datganoledig fel yr amgylchedd yn San Steffan ar 么l Brexit drwy'r Mesur Ymadael 芒'r UE.

Dywedodd Ms Cunningham y byddai Llywodraeth yr Alban yn "cadw at ei hymrwymiadau amgylcheddol, er gwaetha'r bygythiad cynyddol o Frexit galed. Dyna pam ry'n ni'n ymuno a'n cyfeillion yng Nghymru i annog Llywodraeth y DU i atal yr ymgais yma i gipio p诺er".

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd mwy o bwerau yn dod i'r llywodraethau datganoledig na sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, ar 么l i fframweithiau fyddai'n gweithredu ar draws Prydain ar faterion fel masnach gael eu datblygu.