´óÏó´«Ã½

Y Beatles a Bangor

  • Cyhoeddwyd

Mae'n fis Awst 1967 a'r Beatles ydy'r band mwyaf poblogaidd yn y byd. Maen nhw'n teithio i Fangor ar gyfer seminar o fyfyrdod gyda mudiad ysbrydol Maharishi Mahesh Yogi. Mae'r ymweliad yn gofiadwy, nid yn unig am yr holl gyffro sydd o amgylch y band, ond am mai yma wnaeth y pedwar glywed am farwolaeth sydyn eu rheolwr, Brian Epstein. Dyma'r hanes mewn lluniau...

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

The Beatles: Paul McCartney, George Harrison, Ringo Starr a John Lennon

The Beatles, heb os, ydy un o'r bandiau mwyaf dylanwadol yn y byd. Mae albym 'Sgt Pepper's Lonely Hearts Club Band' wedi cael ei ryddhau cwpl o fisoedd cyn yr ymweliad i Fangor. Mae'n cael ei gydnabod fel un o gasgliadau mwyaf arwyddocaol y band.

Ffynhonnell y llun, Victor Blackman

Cerddorion o'r dosbarth cyntaf: Paul McCartney (chwith) a Mick Jagger (dde) yn eistedd gyferbyn â'i gilydd funudau cyn gadael Gorsaf Euston am Fangor ar 25 Awst - diwrnod ar ôl cael eu hudo gan Maharishi Mahesh Yogi mewn darlith yn Llundain.

Ffynhonnell y llun, Mirrorpix

Ond dydi'r daith ddim yn cychwyn yn dda i John Lennon. Mae'n gweiddi ar ôl ei wraig Cynthia ac yn erfyn ar staff diogelwch yr orsaf i'w gadael trwodd. Ond mae hi'n methu'r trên ac mae'n ddigwyddiad sydd, mae hi'n cyfaddef wedyn yn ei dagrau, yn dangos y straen sydd ar eu perthynas.

Roedd y Maharishi, gwrw o'r India ac arweinydd y Mudiad Adfywio Ysbrydol, yn annerch cynhadledd yng Ngholeg Normal Bangor. Mae dros 300 o bobl yn mynychu, gan gynnwys Pattie Harrison, ei chwaer Jenny Boyd, 'Magic' Alex Mardas, Mick Jagger a'i gariad, Marianne Faithfull. Mae'r Beatles yn aros yn neuaddau Dyfrdwy, sy'n dra wahanol i'w catrefi moethus dros y ffin.

Disgrifiad o’r llun,

The Beatles ar dir y Coleg Normal

Ar eu noson gyntaf ym Mangor fe aeth y band, ynghyd â Mick Jagger a Marianne Faithfull, i fwyty Senior Chinese gan mai yno oedd yr unig le i gael bwyd mor hwyr gyda'r nos.

Doedd yr aelodau ddim yn arfer cario arian ac felly doedd ganddyn nhw ddim modd o dalu am y bwyd. Ar ôl i'r bwyty fynnu eu bod yn talu, mae'n debyg fod George Harrison wedi defnyddio cyllell i agor sawdl ei sandal, ble'r oedd papur £20 yn llechu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn gwbl annisgwyl, mae'r newyddion yn torri fod rheolwr y band, Brian Epstein, wedi ei ganfod yn farw o gorddos yn 32 oed. Mae'r Maharishi yn rhoi cyngor i'r aelodau ar sut i ddelio â'u colled, cyn i'r wasg ryngwladol heidio i fynedfa'r coleg i gael ymateb y band.

Ffynhonnell y llun, Keystone

O glywed am ei farwolaeth, mae Ringo Starr, George Harrison a John Lennon yn wynebu'r wasg i ateb ychydig o gwestiynau cyn dychwelyd i Lundain ar 28 Awst.

Ffynhonnell y llun, Keystone

Yn syth ar ôl clywed am farwolaeth Epstein, mae Paul McCartney a'i gariad Jane Asher yn gadael am Lundain, ychydig ddyddiau ar ôl cyrraedd Bangor.

Cafodd plac ei ddadorchuddio ar hen safle Neuadd Hugh Owen yn 2002 i nodi 35 mlynedd ers ymweliad y band. Fe chwaraeodd Bangor ran fawr yn un o gyfnodau mwyaf cofiadwy The Beatles.

*Cyhoeddwyd yr erthygl yma yn wreiddiol ar 22 Awst, 2017.