Rheilffordd Cwm Rheidiol eisiau ehangu yn dilyn grant
- Cyhoeddwyd
Mae gan atyniad i dwristiaid yn Aberystwyth gynlluniau i ehangu gyda chymorth grant gan y Gronfa Cymunedau Arfordirol.
Bydd Rheilffordd Cwm Rheidol yn creu dwy swydd a dwy brentisiaeth newydd ar 么l derbyn grant o 拢250,000.
Mae trenau st锚m wedi bod yn rhedeg rhwng Aberystwyth a Phontarfynach ar y rheilffordd ers 1902.
Cafodd ei adeiladu'n wreiddiol er mwyn cario pobl a phlwm - roedd mwyngloddio yn y cwm hyd at 1933 - ond erbyn heddiw y diwydiant twristiaeth yw bara menyn y rheilffordd.
Mwy o ymwelwyr
Mae eisoes wedi cynyddu nifer yr ymwelwyr yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf a gyda'r grant newydd mae'n gobeithio tyfu eto.
"Rhyw bedair i bum mlynedd yn 么l roedden ni'n cario tua 35,000 o bobl y flwyddyn," meddai prif reolwr y rheilffordd Ll欧r ap Iolo.
"Nawr ry'n ni'n agos at 60,000. Licen i fynd dros hynny ac i fyny at 65,000 y flwyddyn."
Gyda'r arian, bydd y rheilffordd yn ail-adeiladu pedwar cerbyd tr锚n gan eu haddasu i roi mynediad i bobl anabl am y tro cyntaf.
"Gan fod y cerbydau wedi cael eu hadeiladu yn y 1920au, dydyn nhw ddim yn caniat谩u i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn i fynd ar y tr锚n - mae'n broblem ry'n ni wedi cael ers y dechrau," meddai Mr ap Iolo.
"Felly bydd rhan o'r grant yma yn ein galluogi ni i wneud lle mewn pedwar cerbyd fel bod pobl anabl yn gallu teithio ar y tr锚n a mwynhau'r cwm."
Prentisiaid
I wneud y gwaith bydd dwy swydd newydd yn cael eu creu, yn ogystal 芒 chyfle i ddau brentis newydd ddysgu crefft gyda staff profiadol y rheilffordd.
Mae gan y rheilffordd dri phrentis ar hyn o bryd ac fe ddechreuodd nifer o'r 35 aelod o staff sy'n gweithio yno fel prentisiaid.
Prentis oedd Ifan Burrell ar y dechrau, ac erbyn hyn mae'n gweithio i'r rheilffordd ers pum mlynedd fel peiriannydd a gyrrwr trenau.
"Prentisiaeth yw'r ffordd orau o ddysgu'r gwaith yma - dyw prifysgol ddim yn apelio at bawb," meddai.
"Mae gennych chi lawer o bobl, ar 么l iddyn nhw orffen yn y brifysgol, sy' ddim yn gweithio yn y maes y gwnaethon nhw astudio.
"Felly i fi mae prentisiaeth yn rhoi'r cyfle i chi ddysgu tra bod chi'n cael eich talu a chael y sgiliau yn y maes y byddwch chi yn gweithio ynddo."
Mae'r arfer o gynnig prentisiaethau'n bwysig i'r rheilffordd yn 么l Mr ap Iolo, er mwyn rhoi cyfle i bobl leol gael y sgiliau a swyddi yn eu cymuned eu hunain.
"Mae'n rhaid i ni gadw pobl yn yr ardal - mae hynny'n bwysig," meddai.
"Rwy'n dod o'r ardal ac mae'r rhan fwyaf o bobl ry'n ni wedi cymryd 'mlaen yn bobl leol.
"Bob tro ry'n ni'n gwneud rownd o brentisiaethau ry'n ni'n cael degau o bobl yn trio am le yma."
Ac mae'n si诺r y bydd hynny'n parhau wrth i hen drenau, a hen dechnoleg stem Cwm Rheidol, gynnig bywoliaeth a dyfodol i bobl ifanc yn eu milltir sgw芒r.