Gofal yng Nghymru am y tro cyntaf i bobl drawsryweddol
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi gwasanaeth newydd ar gyfer hunaniaeth rywedd oedolion yng Nghymru.
Drwy sefydlu gwasanaethau arbenigol am y tro cyntaf yng Nghymru, y bwriad yw y bydd pobl drawsryweddol yn gallu cael gofal yn agosach at eu cartrefi.
Ar hyn o bryd mae pobl trawsryweddol sy'n cael diagnosis yng Nghymru yn gorfod teithio i glinig arbenigol yn Llundain.
Mae Stonewall Cymru wedi croesawu'r newyddion, gan ddweud bod gofal a chefnogaeth hanfodol wedi ei wrthod yng Nghymru "ers rhy hir".
Dywedodd BMA Cymru eu bod yn "falch iawn" o weld bod y llywodraeth yn mynd i'r afael gydag anghenion holistig y gymuned drawsryweddol.
Ehangu'r gofal yn y dyfodol
Yn 么l Mr Gething mae'r cynllun yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru "i wella iechyd a llesiant i bawb".
Y llynedd roedd y llywodraeth wedi gwneud ymrwymiad yn ei chyllideb ddrafft i ddatblygu clinigau hunaniaeth rywedd gydag ymrwymiad o 拢1m tuag at sefydlu darpariaeth anhwylderau bwyta a hunaniaeth rywedd yng Nghymru.
O fis Hydref ymlaen fe fydd t卯m arbenigol, T卯m Rhywedd Cymru, yn cynnig cyngor i feddygon teulu sydd 芒 diddordeb yn y maes, ac fe fyddan nhw yn derbyn cleifion sydd eisoes wedi dechrau cael gofal gan y clinig yn Llundain.
Y bwriad erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf yw bod y t卯m yn derbyn cleifion newydd a chynnig gofal a thriniaeth i unigolion sydd ar y rhestr aros yn Llundain.
Bydd rhai sydd ag anghenion cymhleth neu eisiau llawdriniaeth i newid eu rhyw yn parhau i gael eu gweld gan arbenigwyr dros y ffin.
Y nod meddai'r llywodraeth yw cynnig gwasanaeth llawn yn y pendraw yng Nghymru.
14 oed oedd Joe pan wnaeth hi ddweud wrth bobl ei bod hi'n berson traws.
Fe gafodd ei chyfeirio at y clinig arbenigol yn Llundain ac mae wedi bod yn mynd yno i gael triniaeth hormon a phresgripsiwn testosteron.
"Mae angen teithio i Lundain i gwrdd 芒 doctoriaid i siarad am beth ti eisiau 'neud ond hefyd ar gyfer pethau syml fel cymryd gwaed a phethau fel na."
Mae'n credu y bydd y gwasanaeth newydd yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl drawsryweddol.
"I lot o bobl, allen nhw ddim teithio i Lundain, os nad oes gyda nhw ddigon o arian neu os maen nhw ddim yn gallu cymryd amser off gwaith neu ysgol.
"Dwi'n meddwl mae e jyst yn agor lan lot o bosibiliadau i lot mwy o bobl."
Dywedodd Mr Gething bod yna gynnydd wedi bod yn y galw am ofal i bobl drawsryweddol yn y blynyddoedd diwethaf.
"Mae'r gwasanaethau newydd rwy'n eu cyhoeddi heddiw yn golygu y bydd yr holl wasanaethau ac eithrio'r rhai mwyaf arbenigol ar gael yng Nghymru cyn hir, a hynny mor agos 芒 phosibl at gartrefi'r defnyddwyr.
"Bydd hynny'n ei gwneud yn haws i bobl gael gafael ar ofal, ac yn gwella'r profiad iddynt."
Ychwanegodd: "Mae Gr诺p Partneriaeth Hunaniaeth Rywedd Cymru wedi ymwneud yn agos 芒'r gwaith o lunio'r llwybr gofal newydd, a byddant yn parhau i gymryd rhan yn holl waith y dyfodol."
Yn 么l Stonewall Cymru mae'r cyhoeddiad yma wedi dod ar 么l blynyddoedd o ymgyrchu gan gymunedau traws.
"Ers rhy hir, mae mynediad at ofal iechyd a chefnogaeth hanfodol a allai achub bywydau wedi cael eu gwrthod i bobl draws yng Nghymru yn ein gwlad ein hunain", meddai Crash Wigley, Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd y mudiad.
"Mae'r newidiadau yma'n cael gwared ar nifer o'r rhwystrau hynny, ac rydym yn croesawu'n arbennig yr ymrwymiad i ddatblygu modelau lleol o ofal, a gwaredu'r angen i gael atgyfeiriad trwy wasanaethau iechyd meddwl."
Ond maent yn galw am ddarpariaeth yr un peth i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Llais i'r meddyg teulu
Dywedodd Dr Charlotte Jones, Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu BMA Cymru: "Mae Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru yn falch iawn o weld sut mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati'n rhagweithiol i wrando ac i fynd i'r afael ag anghenion gofal holistig y gymuned drawsryweddol.
"Rydym yn falch hefyd y bydd gan feddygon teulu sydd 芒 diddordeb arbenigol yn y maes ran allweddol yn y gwasanaeth newydd, yn ogystal 芒 phob meddyg teulu sy'n rhan o siwrnai'r claf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd7 Mai 2017
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2016