大象传媒

'Pryder mawr' am amseroedd aros ar gyfer llawdriniaethau

  • Cyhoeddwyd
amseroedd arosFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae pum gwaith yn fwy o gleifion yng Nghymru yn aros o leiaf 52 wythnos am driniaeth lawfeddygol o gymharu 芒'r sefyllfa yn 2013, yn 么l Coleg Brenhinol y Llawfeddygon (RCS).

Yn ystadegau mis Mawrth eleni, roedd dros 3,600 o bobl wedi aros dros flwyddyn am lawdriniaeth o'i gymharu 芒 bron i 700 ym mis Mawrth pedair blynedd yn 么l, cynnydd sy'n "destun pryder mawr" yn 么l yr RCS.

Er hynny, mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi gwella o ran gostwng amseroedd aros 26 a 36 wythnos yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod amseroedd aros yn dal i fod yn "rhy hir" ar gyfer rhai, ond maen nhw'n dweud bod y gwasanaeth iechyd yn trin mwy o bobl, a bod y mwyafrif yn cael triniaeth o fewn targedau o ran amseroedd aros.

Mae'r RCS hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod nifer y cleifion yng Nghymru sy'n aros mwy na 52 wythnos am driniaeth lawfeddygol yn uchel o'i gymharu 芒 Lloegr lle'r oedd 1,302 o gleifion yn aros dros flwyddyn am driniaethau ym mis Mawrth 2017.

Aros am 85 wythnos

Mae Graham Dunlop o'r Fenni, sy'n 49 oed, wedi bod yn aros naw mis am lawdriniaeth, a chafodd wybod y byddai'n rhaid iddo aros 85 wythnos cyn cael llawdriniaeth i dynnu sist oddi ar ei gefn.

Cyn i'r problemau ddechrau gyda'i asgwrn cefn, roedd e'n byw bywyd prysur yn hyfforddwr judo 芒 belt du ac yn seiclwr brwd, ond mae aros am lawdriniaeth a'r poen eithafol wedi cael effaith mawr ar ei fywyd.

Mae Mr Dunlop yn dweud ei fod e'n teimlo ei fod e'n "faich ar ei deulu".

"Rwy'n poeni achos dydy 85 wythnos ddim yn rhoi dyddiad i fi pan rwy'n gwybod bydda i'n ddiogel," meddai. "Mae mor ben agored, dwi ddim yn gallu cynllunio i'r dyfodol, ond alla'i weld wrth i fy nghyflog ostwng, bydd biliau'n broblem ac wedyn bydd fy nh欧 yn y fantol. Rwy'n ddigon synhwyrol i wybod hynny."

Cysylltodd Mr Dunlop gyda'i Aelod Cynulliad, Nick Ramsay o'r Blaid Geidwadol, mewn ymgais i leihau ei amser aros.

Bellach, mae disgwyl bydd Mr Dunlop yn cael llawdriniaeth ar 2 Hydref, ond mae Graham Dunlop wedi cwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, sydd wedi dechrau ymchwiliad i'r achos.

Mae Mr Ramsay yn dweud bod yr achos hwn yn amlygu sefyllfa ehangach: "Mae'r gwasanaeth iechyd ar draws y Deyrnas Unedig dan bwysau enfawr. Ond os edrychwch ar y problemau yng Nghymru a'r amser ychwanegol y mae pobl yn aros am driniaethau sy'n newid bywyd, mae'n gwbl annerbyniol."

'Dim syndod'

Doedd Dr Phil White, sy'n siarad ar ran cymdeithas feddygol y BMA, ddim yn synnu gyda'r ffigyrau, ac yn dweud bod gostyngiad yn nifer y gwelyau sydd ar gael mewn ysbytai'n golygu nad oes digon o le i wneud y gwaith.

Disgrifiad,

Ymateb Dr Phil White o BMA Cymru i'r ffigyrau

Byrddau Iechyd Betsi Cadwaladr ac Abertawe Bro Morgannwg sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf o ran y cleifion sydd wedi aros dros 52 wythnos ar gyfer triniaeth, ond mae'r sefyllfa yn dra gwahanol yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf, ble na wnaeth yr un claf aros dros flwyddyn am driniaeth ym mis Mawrth 2017.

Dywedodd y llawfeddyg Mr Tim Havard, sy'n gyfarwyddwr rhanbarthol yr RCS yng Nghymru:

"Diolch i waith caled staff y Gwasanaeth Iechyd, mae amseroedd aros yn dros 36 wythnos wedi dechrau gostwng dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae'r amseroedd amser cyffredinol yn dal i fod yn rhy hir ac mae'r cynnydd yn nifer y cleifion sy'n aros am dros flwyddyn yn destun pryder mawr.

"Mae'n rhaid i GIG Cymru a'r Llywodraeth ddatblygu polis茂au fydd yn helpu lleihau amseroedd aros. Yn benodol, hoffem weld darpariaeth y gwasanaethau y tu allan i'r ysbyty yn gwella, a mwy o sicrwydd na fydd llawdriniaethau sydd wedi eu trefnu o flaen llaw yn cael eu canslo yn sgil diffyg gwl芒u."

'Mwyafrif o fewn yr amser'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er gwaethaf y galw cynyddol ar y GIG yng Nghymru, mae'r gwasanaeth iechyd yn trin mwy o gleifion, gyda'r mwyafrif helaeth yn cael eu gweld o fewn yr amseroedd targed.

"Mae atgyfeiriadau at wasanaethau yn yr ysbyty wedi cynyddu tua 20%, o 1.07m yn 2012/13 i 1.27m yn 2015/16. Mae cynnydd mewn arbenigeddau unigol hyd yn oed yn uwch, gydag atgyfeiriadau orthopedig yn unig wedi gweld cynnydd o 22%.

"Er gwaethaf hyn, mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod dros hanner y cleifion yn aros llai na 10 wythnos ar gyfer triniaeth, tra bod gostyngiad o 28% wedi bod yn y nifer sy'n aros dros 36 wythnos ym mis Mawrth 2017 o gymharu 芒'r un cyfnod yn 2016.

"Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod rhai yn dal i aros yn rhy hir am driniaeth. Dyna pam y sefydlwyd rhaglen ofal i helpu GIG Cymru i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy.

"Yn ogystal 芒 hyn, mae gan fyrddau iechyd gynlluniau gweithredu ar waith i leihau arosiadau hir, ac yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd 拢50m ychwanegol i helpu'r GIG i wella amseroedd aros ymhellach."

Dywedodd Prif Weithredwr GIG Cymru, Andrew Goodall ei fod yn disgwyl i fyrddau iechyd ddechrau trin cleifion os ydynt wedi bod yn aros am eu triniaeth ers peth amser: "Ni ddylai neb aros am amseroedd hir os oes modd eu gwneud yn gynt.

"Rydym yn dweud wrth y byrddau iechyd ei fod yn annerbyniol fod amseroedd aros yn hirach na'r targedau, ac rydym yn disgwyl iddynt wella eu perfformiad."