大象传媒

Dal y don

  • Cyhoeddwyd
harrisFfynhonnell y llun, Sarah Harris
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr Harrisiaid mentrus: (o'r chwith i'r dde) Stephanie, Sarah a Mark

Ar 么l methu 芒 ffeindio swyddi addas ar 么l graddio, mae dwy chwaer a brawd wedi uno a chreu busnes ton-fyrddio yn eu milltir sgw芒r yn Sir Benfro.

"Ry'n ni'n caru Sir Benfro, a'r cyfan oll sydd ganddi i'w gynnig," meddai un o'r chwiorydd, Sarah Harris, sy'n 28 oed.

"Doedd unman gwell yn y byd i sefydlu ein busnes newydd, ac ro'n i'n gwybod ein bod ni'n tri eisiau symud yn 么l adre. Ond mae'n anodd ofnadwy i gael gwaith cynaliadwy yn Sir Benfro, rhaid cyfaddef."

Yr opsiwn orau felly? Creu gwaith i'w hunain, a hynny ym Martletwy, ryw saith milltir o Arberth.

O'r cychwyn cyntaf, meddai, prosiect teuluol oedd hyn yn mynd i fod, iddi hi, ei chwaer Stephanie, a'u brawd bach, Mark.

Dyma droi at fideos YouTube i ddysgu sut oedd mynd ati i adeiladu, a thorchi llewys, wrth ddechrau arni.

"Mae unrhyw un sydd wedi adeiladu busnes o'r dechrau'n deg wedi bod trwy'r union broses yma. Ry'ch chi'n teimlo'r straen yn gyson ac mae'n cymryd gymaint i gael pethau i ddod at ei gilydd.

"Ro'n i'n lwcus iawn ein bod ni'n gallu gwneud y gwaith ein hunain. Mae gyda ni gyd ein cryfderau, ac os oedd yna wendid yn rhywle fel arfer roedd un arall ohonon ni'n gallu cymryd y slac!"

Gymrodd hi dair blynedd i bethau ddod at ei gilydd, o brynu'r tir, rhoi'r cais cynllunio a busnes at ei gilydd a chael caniat芒d ac arian, yna'r gwaith adeiladu.

"Wnaethon ni bopeth ein hunain, o'r clubhouse i osod y tyrrau cebl. Roedd hi'n gyfnod dwys iawn o wylio lot fawr o fideos ar y we er mwyn dysgu'r sgiliau angenrheidiol, a gwneud lot o waith ymchwil!"

Ffynhonnell y llun, Sarah Harris

'Rhoi shot dda arni'

Roedd darparu gweithgaredd d诺r nad oedd yn dibynnu ar y tywydd yn bwysig iawn i'r tri ohonyn nhw, yn enwedig ar safle mewndirol.

"Ro'n ni'n tri yn lwcus iawn o gael cymryd rhan mewn amryw o chwaraeon wrth dyfu lan, ac ro'n ni'n awyddus i wneud yn si诺r bod y mynediad at chwaraeon yn parhau yn Sir Benfro," meddai Sarah.

"Ond yn anffodus, mae ton-fyrddio yn brin iawn yng Nghymru oni bai bod gennych gwch.

"Ro'n ni'n gwybod, os bydden ni'n gwella'r hygyrchedd a'r lefel o hyfforddi sydd ar gael, yna byddai yna ddigon o bobl leol a thwristiaid o gwmpas i roi shot dda arni."

Efallai o ddiddordeb...

Mae'r tri wrth eu boddau gyda chwaraeon, a hynny ers blynyddoedd,

"Roedd yr awydd yno, a phawb yn cytuno bod angen y fath beth yn Sir Benfro. Ro'n ni'n awyddus i ychwanegu at y bwrlwm o weithgareddau eraill sydd ar gael yn barod yn yr ardal," meddai Sarah.

Ffordd o fyw

Mae Sir Benfro yn drysor o le, meddai, a hynny oherwydd y bobl.

"Yn syml iawn, mae pawb sydd yma'n byw am y ffordd o fyw. Mae pawb yn ymdrechu i gael y balans perffaith mewn bywyd, ac mae'n bosib iawn i gyflawni hynny yn Sir Benfro, gan wneud y rhan fwyaf ohonon ni'n bobl hapus iawn."

Roedd dechrau'r busnes yn benderfyniad hawdd, ond o brofiad dyw'r gefnogaeth ddim wastad yna wrth sefydliadau a mudiadau sydd i fod i gynnig arweiniad.

"Ond os ydych chi'n fodlon rhoi'r gwaith i mewn, gwneud y gwaith ymchwil, mentro - fe welwch chi'r wobr yn y pen draw, rhyw ddiwrnod," meddai Sarah.

Ffynhonnell y llun, Sarah Harris
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y ganolfan donfyrddio yn Martletwy

"Does dim llwyddiant dros nos, ond ry'n ni'n gwneud hyn fel ffordd o fyw hefyd, a gwneud y gorau o bopeth. A diolch byth mae gan y tri ohonom yr un fath o safbwyntiau pan mae'n dod at weithio gyda'n gilydd. Ry'n ni fel arfer ar yr un donfedd.

"Ond ry'n ni'n gallu fod yn swrth iawn gyda'n gilydd. O leiaf ry'n ni'n gwybod lle ry'n ni'n sefyll wedyn!"

Gyda'r busnes yn mynd o nerth i nerth, y gobaith yw parhau gyda'r hwyl.

"Mae gyda ni bentwr o syniadau, felly gobeithio gallwn droi'r rheini'n realiti wrth i'r busnes dyfu."

Stori: Llinos Dafydd