Dewis Cymro ar gyfer ras hwylio fyd-eang

Mae dyn o F么n wedi ei ddewis i gymryd rhan yn un o ddigwyddiadau hwylio mwyaf y byd.

Bydd Bleddyn M么n, gafodd ei eni ym Mangor, yn cystadlu yn y Volvo Ocean Race, sy'n cael ei ystyried yn un o brif ddigwyddiadau'r byd hwylio, ochr yn ochr 芒'r Gemau Olympaidd a Chwpan yr Americas.

Bydd y ras yn cychwyn yn ardal Alicante, Sbaen ym mis Hydref, gan ymweld 芒 llefydd fel Cape Town yn Ne Affrica, Hong Kong, Auckland yn Seland Newydd a Brasil cyn gorffen yn yr Hague.

Bydd saith o dimau yn cystadlu yn y ras, fydd yn para am naw mis, ac yn ymweld 芒 Chaerdydd ar y ffordd.

Ar 么l dechrau'r ras ar 22 Hydref, bydd y timau'n teithio 46,000 o filltiroedd m么r dros bedwar o gefnforoedd y byd.

'Cyffrous iawn'

Dywedodd Bleddyn M么n wrth Cymru Fyw: "Roedd y trefnwyr yn cynnal treialon ar gyfer y timau, a dwi'n teimlo'n gyffrous iawn i gael fy newis.

"Does gen i ddim llawer o brofiad o gymryd rhan mewn rasys hir, dim ond rhai byr mewn cychod llai.

"Mi fydd 'na lot o bethau angen eu gwneud tra bydda' ni allan ar y ras.

"'Da ni'n ymarfer yn Lisbon ar hyn o bryd, ac yn dysgu llawer am yr hyn sydd o'n blaenau bob dydd."

Bydd Bleddyn yn cystadlu dan faner y Cenhedloedd Unedig yn nh卯m Turning the Tide on Plastics, a'u nod fydd hyrwyddo'r gwaith o lanhau'r moroedd o wastraff a llygredd.

Ychwanegodd: "Bydd yn gyfle gwych i gael profiad o fath gwahanol o hwylio, dysgu sgiliau newydd a gweld rhywfaint o'r byd."