大象传媒

Cynlluniau i ail gyflwyno afancod i afonydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
AfancFfynhonnell y llun, De Meester / ARCO
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru eisiau cyflwyno 10 par o afancod yn 么l i'r gwyllt yn Sir Gaerfyrddin

Fe allai afancod gael eu cyflwyno'n 么l i afonydd Cymru am y tro cyntaf ers dros 500 mlynedd dan gynlluniau gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru.

Fe wnaeth y rhywogaeth ddiflannu yn y canol oesoedd o ganlyniad i hela, ond mae swyddogion amgylcheddol yn ystyried cynlluniau i'w rhyddhau yn ne Cymru.

Mae afancod wedi'u cyflwyno'n 么l i'r gwyllt eisoes yn yr Alban ac yn Nyfnaint ac mae'r Ymddiriedolaeth eisiau cyflwyno 10 par yn 么l i'r gwyllt yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Alicia Leow-Dyke, sy'n gweithio fel swyddog prosiect yr afanc ar gyfer Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru, y byddai ail gyflwyno'r anifeiliaid yn hwb i gyflwr d诺r yr afonydd ac i'r ecosystem leol.

'Mwy o bysgod'

"Dyma'r tro cyntaf byddai afanc yn y gwyllt yng Nghymru ers canrifoedd.

"Maen nhw'n anifeiliaid sy'n adeiladu argae fydd o fydd i'r ecosystem. Fe welwn ni fwy o bysgod, mwy o famaliaid a phryfetach fydd yn hwb i fywyd gwyllt," meddai.

Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru wedi cyflwyno cais drwydded mewn cysylltiad gyda'r elusen gadwriaethol Ymddiriedolaeth Bevis i ailgyflwyno'r afanc i'r gwyllt.

Ychwanegodd Ms Leow-Dyke fod y "prosiect yn yr Alban a Dyfnaint wedi bod yn llwyddiant, ac rydym eisiau gwneud yr un peth yng Nghymru".

Mae disgwyl penderfyniad gan benaethiaid Cyfoeth Naturiol Cymru cyn diwedd y flwyddyn.