大象传媒

Cosbi 400 o blant am wisg ysgol 'anghywir'

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Penglais
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gan Ysgol Penglais yn Aberystwyth 1,300 o ddisgyblion

Mae nifer o rieni wedi cwyno wrth ysgol uwchradd yn Aberystwyth ar 么l i 400 o blant gael eu cosbi am "dorri rheolau gwisg ysgol" ar ddiwrnod cynta'r tymor.

Dywedodd rhai rheini wrth 大象传媒 Cymru Fyw eu bod nhw'n anhapus bod eu plant wedi cael eu cadw i mewn yn yr ysgol amser egwyl a chinio, ac na chafodd y plant rybudd yn gyntaf.

Erbyn fore Mercher, roedd dros 240 o bobl wedi arwyddo deiseb yn dweud eu bod nhw'n credu ei bod hi'n "annheg bod ein plant wedi cael eu cosbi am gamgymeriadau rhieni".

Roedd y ddeiseb hefyd yn honni nad oedd y rheolau gwisg newydd yn ddigon clir.

Fe gadarnhaodd Cyngor Sir Ceredigion eu bod nhw'n deall bod "nifer fawr o ddisgyblion Ysgol Penglais wedi cael eu cadw fewn yn ystod amser egwyl a chinio am beidio cydymffurfio gyda pholisi'r ysgol ar gyfer y wisg", ond nad oedd unrhyw ddisgybl wedi cael ei gadw ar 么l oriau ysgol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd disgwyl i bob plentyn blwyddyn 7 wisgo'r siwmperi a thei newydd ddechrau mis Medi, a disgyblion eraill i newid i'r wisg newydd o fewn y flwyddyn academaidd hon.

Dros yr haf fe wnaeth Ysgol Penglais newid eu gwisg ysgol, o siwmper las tywyll a chrysau polo gwyn i siwmperi llwyd, crys gwyn a thei, a hynny yn dilyn ymgynghoriad gyda rhieni.

Roedd hi'n ofynnol i blant blynyddoedd 7 a 12 i wisgo'r wisg newydd o'r mis Medi hwn ymlaen, tra y byddai gan bob disgybl arall flwyddyn i brynu'r wisg newydd.

Mae 大象传媒 Cymru Fyw wedi gweld cynnwys llythyrau a gafodd eu hanfon at rieni Ysgol Penglais yn amlinellu'r rheolau newydd.

Ynddo mae'n dweud na fydd hawl gan ddisgyblion wisgo trywsusau sy'n debyg i jeans, leggins, trywsusau combat na thrywsusau skinny.

Mae'r llythyr yn dweud y dylai rieni ddarparu trywsusau traddodiadol, wedi eu teilwra ac mae disgwyl i sgertiau merched fod "o gynllun traddodiadol" ac at y benglin.

Dyw sgertiau mini na rhai o ddefnydd jersey ddim yn cael eu caniat芒u na 'sgidiau canfas, trainers na b诺ts chwaith ac mae disgwyl i'r disgyblion wisgo sanau tywyll.

Cosbi plant 'yn annheg'

Dywedodd un rhiant, sydd ddim eisiau cael ei henwi bod ei phlentyn wedi mynd i'r gwasanaeth ar ddiwrnod cynta'r ysgol ddoe, ac wrth i'r disgyblion fynd allan o'r neuadd roedd rhai'n cael eu tynnu i'r naill ochr gan athrawon ac yn derbyn 'papur melyn' os oedd unrhyw beth o'i le gyda'u gwisg.

Roedd y disgyblion rheiny yn gorfod colli amser egwyl a chinio wedyn fel cosb.

"Mae'n hollol hurt" meddai'r rhiant wrth 大象传媒 Cymru Fyw. "Cafodd ffrind fy mhlentyn ei chosbi am nad oedd hi'n gwisgo ei siwmper ysgol. Ond roedd ganddi'r crys a thei iawn.

"Yn ffodus i fy mhlentyn, roedd ei siwmper hi yn ei bag, neu ffordd arall fe fyddai hi wedi cael ei chosbi hefyd.

"Mae sawl un o fy ffrindiau yn flin iawn o achos problem na'th godi gyda esgidiau eu plant. Nethon nhw brynu fersiwn lledr o'r 'sgidiau poblogaidd, Vans, yn meddwl y bydde'r rheiny'n iawn am nad oedd s么n amdanyn nhw yn y llythyron dderbynion ni dros yr haf.

"Ond erbyn heno, mae'r nodyn oddi wrth yr ysgol yn s么n yn benodol nad ydyn nhw'n dderbyniol. Mae'n hollol annheg."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhai rhieni wedi cwyno bod eu plant wedi cael eu cosbi am eu gwisg ysgol yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth ddydd Mawrth hefyd

Yn 么l sylwadau eraill sydd wedi cael eu gadael ar wefannau cymdeithasol dros nos, roedd sawl rhiant yn flin bod eu plant wedi cael eu cosbi am ddefnydd eu trywsus, a'r hyd hefyd.

Ac mae un rhiant wedi dweud bod ei merch wedi dod adre o'r ysgol yn s芒l fore Mercher oherwydd y straen o boeni am y gosb gafodd hi ddydd Mawrth.

Ymateb pennaeth

Mewn datganiad brynhawn Mercher, dywedodd pennaeth yr ysgol, Mair Hughes:

"Fe gyflwynodd Ysgol Penglais bolisi gwisg ysgol newydd eleni. Rydym yn falch bod mwyafrif y disgyblion a rhieni wedi ymateb yn bositif i'r wisg newydd, ac mae ein myfyrwyr yn edrych yn drwsiadus iawn ar ddechrau blwyddyn newydd.

"Rydym yn parhau i weithio gyda rhai rhieni a myfyrwyr i egluro rhai elfennau o'r polisi newydd, yn enwedig o safbwynt esgidiau.

"Hoffwn ddiolch i rieni a myfyrwyr am weithio gyda'r ysgol i sicrhau bod y polisi newydd yn cael ei weithredu'n gyson ar draws yr ysgol."

Nid Ysgol Penglais ydy'r unig ysgol uwchradd yn Aberystwyth sydd wedi tynhau eu polisi gwisg ysgol ar ddechrau'r tymor academaidd.

Sicrhau cysondeb mewn gwisg ysgol

Mae Ysgol Penweddig yn Aberystwyth hefyd wedi anfon nodyn at rieni yn eu hatgoffa o'u polisi gwisg ysgol. Ynddo mae'n dweud eu bod nhw'n "awyddus i bawb wisgo'r un fath o drowsus, er mwyn sicrhau cysondeb trwy'r ysgol".

Rydyn ni hefyd yn deall fod sawl disgybl yn Ysgol Penweddig wedi derbyn rhybudd ar ddiwrnod cynta'r ysgol nad oedd eu gwisg nhw yn cydymffurfio gyda'r rheolau.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: "Rydym ar ddeall fod nifer o ddisgyblion Ysgol Penglais wedi cael eu cadw fewn yn ystod amser egwyl am beidio cydymffurfio gyda pholisi'r ysgol ar gyfer y wisg. Nid oedd yr unrhyw ddisgybl wedi cael ei gadw ar 么l oriau ysgol.

"Ni chafodd unrhyw ddisgybl yn Ysgol Penweddig ei gadw fewn, er bod athrawon wedi atgyfnerthu disgwyliadau'r ysgol am gydymffurfio gyda rheolau'r wisg i nifer o ddisgyblion.

"Nid yw'r Awdurdod Addysg wedi gorchymyn i ysgolion dynhau eu rheolau gwisg ysgol. Serch hynny, mae'r Awdurdod yn cefnogi ysgolion i ddilyn polis茂au gwisg sydd wedi cael eu mabwysiadu yn dilyn proses ymgynghori llawn."