I loves rhoi organau
- Cyhoeddwyd
Mae'r cwmni bellach yn eiconig yng Nghaerdydd, gyda'u cynnyrch lliwgar sy'n dathlu popeth Caerdyddaidd a Chymreig. Mae eu casgliad 'Taffywood', sy'n rhoi blas Cymreig i deitlau ffilmiau a llyfrau Saesneg, yn arbennig o boblogaidd.
Christian Amodeo yw'r br锚ns tu 么l i'r brand, ac ar y cyd 芒 sefydliad , mae wedi creu matiau diodydd sydd yn annog pobl i drafod eu dymuniad o ran rhoi organau.
Ym mis Tachwedd 2015, nes i roi aren er mwyn i fy ngwraig Helena dderbyn un. Roedd hi wedi bod yn dioddef o'r cyflwr Alport's ers rhai blynyddoedd ond roedd wedi dechrau gwaethygu ers rhyw 18 mis, ac aeth lefel iechyd ei haren yn beryglus o isel. Roedd hi'n dal i weithio ond roedd safon ei bywyd yn wael - yn ddi-egni ac yn cysgu llawer, ac fel iPhone angen p诺er o hyd!
Roedd fy aren yn match gweddol iddi hi, ond ar 么l cael ein rhoi ar fas-data rhannu cenedlaethol, daethon nhw o hyd i aren hyd yn oed yn fwy addas, a rhywun arall fasai'n gallu derbyn fy aren i hefyd. Felly roedd tri chwpl yn rhan o'r broses o roi a derbyn aren gan ei gilydd.
Roedd rhaid i'r holl lawdriniaethau ddigwydd yr un pryd yn yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd - doedd neb yn gallu tynnu mas, neb yn gallu bod yn s芒l, neb yn gallu gwneud wedyn - neu fyddai e ddim yn gallu digwydd o gwbl. Roedd fel transaction. Do'n i ddim yn bod yn anhunanol na dim byd - nes i roi aren er mwyn i Helena gael un.
Ers hynny, mae hi wedi gwella ac yn mynd o nerth i nerth.
Mae'r ysbyty yn gwneud trawsblaniad aren unwaith bob rhyw bythefnos - mae'n arferol iddyn nhw. Ond yn amlwg, mae wedi newid ein bywydau ni, ac rydyn ni mor werthfawrogol.
Denu sylw
Felly dyna pam mod i mor falch o gael bod yn rhan o'r ymgych yma. Ond er fod gen i gysylltiad 芒 thrawsblannu organau, mae beth rydyn ni'n ei drafod ar y matiau ychydig yn wahanol.
Rydyn ni'n trio targedu pobl ifanc gyda'r matiau yma. Pan ti'n 19, 20 oed, ti ddim hyd yn oed yn meddwl dy fod ti byth am farw, heb s么n am gael y sgwrs hollbwysig 'na 芒 dy deulu neu ffrindiau am beth wyt ti eisiau i ddigwydd i dy organau di.
Mae'r newid yn y gyfraith yng Nghymru wedi gwella pethau, ond dydi'r broblem ddim wedi mynd i ffwrdd yn gyfangwbl. Mae gan y teulu dal hawl i wrthod rhoi caniat芒d i organau eu perthynas gael eu rhoi. Mae hyn yn aml oherwydd nad oedden nhw'n gwybod beth oedd dymuniad y person. Yn y flwyddyn ddiwethaf, digwyddodd hyn 21 o weithiau - byddai hynny wedi gallu bod yn hyd at 69 o drawsblaniadau. Byddai gymaint o fywydau wedi cael eu newid.
A dyna ydyn ni'n trio'i annog - bod pobl yn cael y sgwrs. Os wyt ti wedi gwneud y penderfyniad yn dy ben, rwyt ti angen dweud wrth rywun.
Mae'r matiau wedi eu rhoi i ryw 250 o siopau coffi, tafarndai, clybiau rygbi a chanolfannau hamdden ledled Caerdydd a'r cyffiniau, a 'dyn ni'n barod wedi cael lleoliadau eraill yn gofyn am rai hefyd.
Dwi wrth fy modd mod i wedi cael bod yn rhan o hwn, a chael ychydig o hwyl gydag e hefyd. Mae'n denu sylw, a gall unrhyw un ei ddarllen, cael 'chydig o laff, a chael eu hannog i ddarllen mwy. Ac wrth gwrs, mae'n dod 芒 thwtsh o hiwmor i destun difrifol ac anodd, ond sydd mor mor bwysig.