大象传媒

Cyfarfod i drafod dyfodol meddygfa Rhostryfan

  • Cyhoeddwyd
Pobl Rhostryfan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth tua 80 o bobl fynychu cyfarfod cyhoeddus nos Lun i drafod eu pryderon yngl欧n 芒 chau'r feddygfa leol

Mae gr诺p o bobl mewn pentref yng Ngwynedd wedi cyfarfod i drafod eu pryderon yngl欧n 芒'r cynlluniau i gau'r feddygfa leol.

Mae Meddygfa Kendall yn Rhostryfan yn rhan o wasanaeth Hafan Iechyd Caernarfon, gyda meddygon o'r fan honno yn cynnal apwyntiadau yn y pentref ddwywaith yr wythnos.

Mae pobl y pentref yn pryderu am gynlluniau i gau'r feddygfa, fyddai'n golygu eu bod yn gorfod teithio tua phum milltir bob ffordd i weld meddyg, rhywbeth mae trigolion oedrannus a rhai sydd 芒 phlant ifanc yn poeni amdano.

Mae Bryn Hughes yn un o arweinwyr yr ymgyrch i achub y feddygfa, a dywedodd fod angen sicrhau fod "ymgynghoriad cywir yn digwydd".

Deiseb

"Y cam nesa' ydi perswadio'r bartneriaeth i beidio 芒 chau'r feddygfa ar 1 Hydref, a chreu cyfnod o agor a chynnal y gwasanaeth tra bod 'na ymgynghoriad yn digwydd," meddai Mr Hughes.

Nos Lun fe aeth tua 80 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn ysgol Rhosgadfan, lle roedd cyfle i ddewis cynrychiolwyr lleol i siarad 芒'r feddygfa a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yngl欧n 芒 phryderon y gymuned.

Mae 'na ddeiseb hefyd wedi ei llunio yn gwrthwynebu unrhyw newid posib.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Meddygfa Kendall yn Rhostryfan

Mae Geraint Summers yn byw yn Rhostryfan ers blynyddoedd a dywedodd ei fod yn pryderu am yr henoed.

"Fy mhoen i ydy pobl mewn oed - dwi'n un ohonyn nhw - yn gorfod mynd ar fysus i Gaernarfon. Dydi'r bysus ddim yn mynd yn aml a tasa nhw'n colli'r bws, ma' tacsi'n costio tua 拢10 i fynd i Gaernarfon," meddai.

Does dim penderfyniad terfynol ynghylch dyfodol Meddygfa Rhostryfan eto, gyda'r bwrdd iechyd wrthi'n cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd.

Yn 么l llefarydd ar ran Meddygfa Hafan Iechyd, maen nhw - fel sawl practis arall - yn wynebu problemau cyllid a thrafferthion recriwtio meddygon teulu.

Ond maen nhw o'r farn y byddai adleoli gwasanaethau Rhostryfan i Gaernarfon yn arwain at well gwasanaeth i gleifion yn y pendraw.