大象传媒

Ergyd ariannol i bwerdy biomas 拢1bn Ynys M么n

  • Cyhoeddwyd
Pwerdy M么nFfynhonnell y llun, Orthios
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyluniad o sut y bydd y pwerdy yn edrych wedi iddo gael ei orffen

Mae cwmni sy'n gobeithio datblygu pwerdy biomas gwerth 拢1bn ar Ynys M么n wedi cael ergyd ar 么l methu yn ei cais i ennill cytundeb 芒'r llywodraeth.

Mae Orthios eisiau datblygu pwerdy fyddai'n darparu gwres ac ynni ar hen safle Alwminiwm M么n yng Nghaergybi.

Ond doedd y cwmni ddim yn llwyddiannus yn ei cais am gytundeb ynni adnewyddadwy gyda Llywodraeth y DU.

Dywedodd llefarydd o Orthios y byddai'r cynllun "yn mynd yn ei flaen er y canlyniad".

1,700 o swyddi

Mae'r datblygiad yn addo creu 500 o swyddi parhaol a 1,200 yn rhagor i adeiladu'r safle.

Daw'r ergyd ddiweddaraf yn dilyn cadarnhad ym mis Chwefror eleni bod buddsoddwyr o China, Sino Fortune Group, wedi tynnu 'n么l o'r cynllun.

Dywedodd Orthios mewn datganiad eu bod yn teimlo'n rhwystredig am "beidio cael cefnogaeth" er eu bod wedi ail-lunio eu cynlluniau a chynnig pris oedd "yn sylweddol yn is" na'r hyn yr oedd wedi'i ddisgwyl gan y llywodraeth.

Ond fe wnaethon nhw ychwanegu mai "un o nifer o ffynonellau cyllid" oedd y cytundeb 芒'r llywodraeth.