Teithiau dyddiol i Qatar o Faes Awyr Gaerdydd yn 2018
- Cyhoeddwyd
Bydd modd teithio o Faes awyr Caerdydd i Qatar o fis Mai 2018, wedi i Qatar Airways gyhoeddi manylion gwasanaeth awyr dyddiol newydd rhwng y ddwy wlad.
Mae rheolwyr y maes awyr yn dweud fod hyn yn bluen yn eu het, gan mai Caerdydd fydd yn darparu'r unig wasanaeth dyddiol i'r Gwlff o dde orllewin y Deyrnas Unedig.
Bydd y gwasanaeth newydd yn dechrau ar 1 Mai, gyda'r awyrennau'n teithio i'r brifddinas, Doha.
Ers ei hagor yn 2014, mae Maes Awyr Rhyngwladol Hamad ym mhrifddinas Qatar wedi datblygu'n un o feysydd awyr prysura'r byd, gyda 30 miliwn o bobl yn teithio drwyddi'n flynyddol. Mae hefyd yn gyswllt pwysig 芒 nifer o feysydd awyr a gwledydd eraill, gan gynnwys China ac Awstralia.
Awyren Boeing 787 Dreamliner fydd yn cael ei defnyddio i gludo teithwyr, sydd 芒 22 o seddi dosbarth busnes, a 232 o seddi economi.
'Balch iawn'
Dywedodd Prif Weithredwr Qatar Airways, Ei Ardderchowgrwydd Mr Akbar al Baker: "Rydym yn falch iawn o gyhoeddi dyddiad cychwyn ein ein gwasanaeth uniongyrchol i Gaerdydd.
"Mae llawer o deithwyr ar hyn o bryd yn hedfan i ac o Lundain, gan ddefnyddio trafnidiaeth tir rhwng Llundain a Chaerdydd, felly bydd y llwybr newydd hwn yn caniat谩u i deithwyr hedfan yn syth o Gymru i Doha a thu hwnt am y tro cyntaf."
Dywedodd Roger Lewis, Cadeirydd Maes Awyr Caerdydd: "Mae hon yn foment bwysig i Faes Awyr Caerdydd.
"Bydd sgileffeithiau'r gwasanaeth hwn i deithwyr a busnesau ar draws Cymru a De Orllewin Lloegr yn drawsffurfiol.
"Mae Awyr Caerdydd fydd nawr yn darparu'r unig hediadau dyddiol uniongyrchol i'r Gwlff o dde orllewin y DU. Mae hyn yn arbennig iawn i ni gyd."