大象传媒

Datganoli wedi achosi 'degawd coll' i'r Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Meirion Prys Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Meirion Prys Jones bod peryg i'r Gymraeg "foddi mewn d诺r cynnes"

Mae'r Gymraeg wedi dioddef "degawd coll" o ganlyniad i bolis茂au yng nghyfnod datganoli ac mae 'na "chwarae gwleidyddiaeth" wedi bod gyda'r iaith, yn 么l cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith.

Mewn cyfweliad 芒 Newyddion 9 mae Meirion Prys Jones hefyd yn dweud bod peryg i'r Gymraeg "foddi mewn d诺r cynnes".

Ddydd Llun fe fydd hi'n 20 mlynedd ers refferendwm 1997, arweiniodd at greu'r Cynulliad.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws wrth y rhaglen bod angen cwestiynu'r penderfyniadau sydd wedi arwain at dorri ei chyllideb hi.

'Ar goll'

Yn 2011 sefydlwyd r么l y comisiynydd o ganlyniad i'r mesur iaith, ac yn 么l Mr Jones mae hi wedi cymryd "blynyddoedd maith" i ddod dros newidiadau.

"Fe aethon ni ychydig bach ar goll yng nghanol y degawd diwethaf gyda Llywodraeth Cymru," meddai.

"Yn un lle roedd 'na falle ormod o bwyslais ar ddeddfu. Yn sicr mae 'na chwarae gwleidyddiaeth wedi bod.

"Dwi'n meddwl bod Plaid Cymru wedi gweld cyfle i roi trefn gref yn ei lle ond falle nad honno oedd y drefn orau mewn gwirionedd.

"Yn bendant dwi'n credu ein bod ni'n dioddef o ryw ddegawd coll erbyn hyn lle petai pethau wedi adeiladu ar yr hyn oedd yn digwydd y ddegawd ddiwethaf bydden ni mewn llawer gwell sefyllfa nag ydan ni r诺an."

Mae Plaid Cymru yn dweud eu bod wedi gosod seilwaith cryf i dyfu'r iaith.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Meri Huws yn dweud y dylai'r Gymraeg fod wedi cael mwy o chwarae teg ariannol

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar r么l y comisiynydd ar hyn o bryd ac yn awyddus i sefydlu Comisiwn y Gymraeg i wneud y gwaith rheoleiddio a hyrwyddo.

Dywedodd Ms Huws wrth Newyddion 9 y dylai'r Gymraeg fod wedi cael mwy o chwarae teg ariannol.

"Dwi'n credu fod 'na ddadleuon cryf dros edrych ar y gyllideb sydd ei angen o ran y Gymraeg," meddai.

"Rydyn ni wedi wynebu toriadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae hynny wedi bod yn rhwystredig ac wedi peri poen i mi.

"Mae'r negeseuon sydd y tu 么l i'r penderfyniadau hynny yn rhai rydw i, wrth gwrs, yn gorfod cwestiynu."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Alun Davies yn cyhoeddi cynllun ar strategaeth y Gymraeg "yn y misoedd nesaf"

Wedi i ffigyrau Cyfrifiad 2011 ddangos gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, mae targed newydd wedi ei osod gan y llywodraeth o geisio cael miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Fe fydd Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies yn 83 mlwydd oed bryd hynny, ond mae'n mynnu bod atebolrwydd.

"Roedd Carwyn Jones a fi yn hollol glir yn ein meddyliau bod angen newid pethau, bod angen newid y ffordd ni'n delio gyda'r Gymraeg tu fewn i'r llywodraeth ac fel cenedl," meddai.

"Os oes rhaid cael newid mae'n rhaid newid pob dim ac mae hynny yn mynd i gymryd amser.

"Dwi'n mynd i gyhoeddi cynllun yn y misoedd nesaf fydd yn cynnwys targedau ac amcanion clir ar gyfer y llywodraeth yma a'r gweinidog yma."