Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y newidiadau yn y byd addysg mewn 20 mlynedd
- Awdur, Bethan Lewis
- Swydd, Gohebydd Addysg 大象传媒 Cymru
Pan oedd Carla Bartlett yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun y Cymer yn y Rhondda, roedd y prif benderfyniadau am addysg yng Nghymru yn cael eu gwneud gan weinidogion Llywodraeth y DU.
Doedd y drefn ddim yn union fel y system dros y ffin, ac addysg Gymraeg oedd yr elfen wahanol amlycaf.
Ond yn gyffredinol roedd y fframwaith ar gyfer ein hysgolion a phrifysgolion yn debyg i Loegr.
Ugain mlynedd yn ddiweddarach, ac mae systemau addysg pob rhan o'r Deyrnas Unedig wedi mynd i gyfeiriadau gwahanol iawn.
Ac yn gynnar iawn ar y daith ddatganoli, fe wnaed penderfyniadau allweddol a dadleuol ar addysg ym Mae Caerdydd.
Yn 2001 daeth y cyhoeddiad y byddai tablau cynghrair ysgolion yn cael eu dileu, ac yn fuan wedi hynny cafwyd gwared ar brofion i blant 11 ac 14 oed.
Penderfyniadau digon poblogaidd ar y pryd, ond degawd yn ddiweddarach y farn ymhlith nifer yn y byd addysg, gan gyfeirio at ganlyniadau TGAU siomedig, oedd bod safonau wedi dioddef.
Cafodd profion newydd eu cyflwyno, a phwyslais mawr ar rifedd a llythrennedd.
Mae yna gefnogaeth o hyd i'r cyfnod sylfaen - ffordd arloesol o ddysgu'r plant ifancaf gyda'r pwyslais ar chwarae.
Ond dydy'r dystiolaeth hyd yma ddim yn dangos bod y polisi yn llwyddo i gyrraedd y nod o ddileu'r gagendor rhwng y plant tlotaf a'u cyd-ddisgyblion.
Mae asesu perfformiad y drefn addysg dan ddatganoli yn gymhleth, ac mae sawl llinyn mesur posib.
Yn y blynyddoedd diwethaf mae profion rhyngwladol PISA wedi dod yn gynyddol ddylanwadol, ond mae'r rheiny wedi gosod Cymru ar waelod tabl gwledydd y Deyrnas Unedig.
Tu hwnt i'r ysgol mae colegau addysg bellach a phrifysgolion yn rhan o stori addysg ers y refferendwm wrth gwrs.
Ym maes ariannu myfyrwyr prifysgol mae Cymru wedi dilyn polis茂au trawiadol a gwahanol iawn i weddill y Deyrnas Unedig.
A beth am yr heriau ar gyfer y dyfodol?
I Carla, sydd bellach yn arwain yr adran Gymraeg yn yr ysgol ble roedd hi'n ddisgybl, denu a chadw athrawon disglair yw un o'r sialensiau pennaf.
Newid mawr
Mewn gwlad oedd yn arfer cynhyrchu mwy o athrawon nag oedd eu hangen, bellach mae'r sefyllfa yn 么l rhai yn argyfwng.
Ac mae un o'r newidiadau pennaf ers dechrau datganoli ar y gorwel - cwricwlwm newydd sbon i gymryd lle trefn sydd wedi bod yn ei le ers tri degawd.
Yn debyg i ddechrau datganoli, mae'r gobeithion yn uchel.
Ond buodd sawl gwers hefyd i ddangos mai'r gweithredu sy'n allweddol.