大象传媒

200 yn gorymdeithio yn erbyn cau cartref gofal

  • Cyhoeddwyd
Gorymdaith

Mae trigolion Aberystwyth wedi bod yn gorymdeithio i brotestio yn erbyn cynnig i gau cartref gofal yn y dref.

Roedd tua 200 o bobl yn rhan o'r digwyddiad fore Sadwrn yn lleisio eu gwrthwynebiad i'r penderfyniad.

Mae Cyngor Ceredigion yn ymgynghori ar gau cartref gofal Bodlondeb ym Mhenparcau, ble byddai 33 o swyddi'n cael eu colli.

Ond mae undebau wedi dweud nad oes cynllun mewn lle ar gyfer gwasanaethau gofal pe bai'r cartref yn cau.

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal ar y mater yn Ysgol Gynradd Llwyn yr Eos nos Sul, ac mae'r ymgynghoriad yn dod i ben ar 25 Medi.

Dywedodd y cyngor y byddai Bodlondeb angen buddsoddiad sylweddol er mwyn parhau ar agor, a'i fod yn gwneud colled o bron i 拢400,000 y flwyddyn ar hyn o bryd.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

13 o breswylwyr sydd yng nghartref Bodlondeb