Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Bychanu cyflwr OCD yn atal 'cymorth angenrheidiol'
Mae'r ffaith fod anhwylder obsesiynol, OCD, yn cael ei fychanu yn atal nifer rhag cael y cymorth angenrheidiol yn 么l un elusen.
Mae OCD-UK yn dweud bod 36,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda'r cyflwr, ac yn gorfod delio gyda'r broblem eu hunain oherwydd y stigma.
Mae Mind Cymru yn galw ar i bob meddyg teulu gael hyfforddiant er mwyn adnabod y symptomau.
Mae darlithydd seicoleg o Brifysgol Caerdydd wedi dweud hefyd bod cyfnod o bump i saith mis rhwng diagnosis a thriniaeth yn "broblem fawr".
Mae Sara Moseley sy'n gyfarwyddwr elusen Mind Cymru wedi galw'r gwasanaethau meddygon teulu yn "fratiog" gyda nifer o ddioddefwyr OCD yn gwaethygu oherwydd amseroedd hir cyn gweld therapyddion.
'Rhwystr enfawr'
Ychwanegodd Ms Moseley fod angen "gwell ymwybyddiaeth o sut mae'r cyflwr yn gysylltiedig 芒 chyflyrau eraill fel gofid ac iselder".
Dywedodd Dr Athanasios Hassoulas o Brifysgol Caerdydd, wrth gyfeirio at bobl ifanc yn ei harddegau sy'n dioddef o'r cyflwr, ei bod yn gyffredin iddyn nhw beidio 芒 deall beth yr oedden nhw'n mynd drwyddo, tra bod y wybodaeth sydd ar gael ddim wastad yn gywir, sy'n golygu nad ydyn nhw eisiau siarad gyda'r meddyg teulu.
Disgrifiodd y broblem fel "rhwystr enfawr" gan ychwanegu "nad oedd iach芒d eto".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi buddsoddi 拢3m yn y ddwy flynedd ddiwethaf mewn therapi seicolegol i helpu pobl gyda chyflyrau fel OCD.
Dywedodd llefarydd fod "y rhan fwyaf o bobl sy'n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl yn ymateb yn well i driniaeth yn y gymuned".
Ers 2103, mae 125,000 o gleifion, gan gynnwys rhai gyda OCD wedi derbyn cefnogaeth gan wasanaethau gofal cymunedol.