大象传媒

Buddsoddi 拢4.5m yn sector ynni m么r gogledd Cymru

  • Cyhoeddwyd
tonFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe fydd 拢4.5m yn cael ei fuddsoddi yn sector ynni'r m么r a'r llanw yng ngogledd Cymru.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i helpu cynllun Morlais Menter M么n, sef cynllun gwerth 拢5.6m i "ddatblygu a masnacholi" technolegau ynni'r llanw.

Daw'r buddsoddiad drwy law'r UE, sydd wedi cyfrannu 拢4.2m, a Llywodraeth Cymru sydd wedi cyfrannu 拢300,000.

Cafodd y buddsoddiad ei gyhoeddi mewn digwyddiad ar gyfer sector ynni m么r a llanw'r Deyrnas Unedig yng Nghaerdydd ddydd Llun.

'Potensial mawr'

Dywedodd Ysgrifennydd Economi Cymru, Ken Skates: "Gall ynni'r tonnau a'r llanw wneud cyfraniad mawr at wireddu'n huchelgais am Gymru ag economi rhad-ar-garbon yn ogystal 芒 chreu swyddi a thwf cynaliadwy.

"Mae natur arfordir Cymru'n golygu ein bod mewn sefyllfa dda i allu manteisio ar y cyfleoedd y mae'r economi las yn eu cynnig... bydd gan yr ardal y capasiti i gynhyrchu o leiaf 20MW o ynni ar gyfer y grid, gyda photensial ar gyfer 193.5MW arall.

"Dros y pump i ddeng mlynedd nesaf, bydd gennym gyfle go iawn i ddatblygu a chynyddu'r diwydiant ynni morol yng Nghymru. Mae'r arian hwn yn hwb arall i ni wireddu'n huchelgais."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mr Skates ei fod am weld y diwydiant ynni morol yn datblygu ymhellach

Mae Gerallt Llewelyn Jones o Fenter M么n, wedi croesawu'r newydd: "Mae Menter M么n wedi gweithio'n galed i gyrraedd y garreg filltir hon ar gyfer Ynys M么n a'r gogledd.

"Mae'n hanfodol ein bod yn rhoi'n hunain yng nghanol yr ymdrechion byd-eang i ddatblygu ynni adnewyddadwy'r m么r, sector sy'n tyfu ac sydd 芒 photensial mawr i greu a chynnal swyddi."