大象传媒

Ansicrwydd am ddatganoli pwerau rheilffyrdd cyn 2018

  • Cyhoeddwyd
Rheilffyrdd

Mae Aelodau Cynulliad wedi clywed ei bod hi'n bosib na fydd grymoedd i benderfynu pwy sy'n rheoli'r rhan fwyaf o wasanaethau rheilffyrdd Cymru yn cael eu datganoli tan 2018.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru wneud cais ffurfiol yr wythnos hon i reoli gwasanaethau Cymru a'r Gororau.

Ond dywedodd uwch swyddog wrth ACau y bydd hynny'n rhan o gytundeb gyda Llywodraeth y DU, er bod gweinidogion Cymru wedi disgwyl y bydden nhw'n gyfrifol am y broses erbyn hyn.

Fe allai'r cytundebau terfynol gael eu rhoi dan gytundeb cydsyniol tebyg.

Mae disgwyl i'r drefn freinio newydd - fydd yn dod yn lle'r cytundeb sydd gan Trenau Arriva Cymru ar hyn o bryd - ddechrau'r flwyddyn nesaf.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Trenau Arriva Cymru sydd yn gyfrifol am wasanaethau Cymru a'r Gororau ar hyn o bryd

Ond mae'r broses wedi ei llesteirio gan oedi a dadleuon rhwng y ddwy lywodraeth am bwerau a chostau.

Roedd Simon Jones, Cyfarwyddwr ar gyfer Seilwaith yr Economi, yn rhoi tystiolaeth i'r Cynulliad ynghyd 芒'r ysgrifennydd economi Ken Skates ddydd Mercher.

Cafodd y tendr ei ohirio fis Awst, wrth i lywodraethau Cymru a'r DU feio'i gilydd am yr oedi.

Yn ganolog i'r ddadl mae'r anghytundeb a ddylai Adran Gludiant Llywodraeth y DU roi 拢1bn i Lywodraeth Cymru dros gyfnod o 15 mlynedd.

'Diwedd y flwyddyn'

Dywedodd Mr Jones wrth ACau: "Os ydych chi'n edrych ar wefan yr Adran Gludiant, mae'n dweud y bydd y grymoedd yn cael eu trosglwyddo ddiwedd y flwyddyn.

"Mae'n trafodaethau ni gyda swyddogion yn awgrymu y bydd hynny'n symud i'r flwyddyn nesaf.

"Rydym yn mynd i dendro ar gefn cytundeb asiantaeth y mae gweinidogion wedi ei lofnodi yma a San Steffan.

"Felly mae'r tendr hwn ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol ar Gludiant.

"Yn dibynnu ar ba mor gyflym maen nhw'n newid y pwerau, mae'n bosib y bydd gyda ni hefyd gytundeb asiantaeth i gyflwyno'r contract."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd rheoli Metro De Cymru yn rhan o'r cytundeb newydd

Cadarnhaodd Mr Skates y bydd y tendr yn cael ei gyflwyno ddydd Iau.

"Bydd y fasnachfraint yn dechrau fis Hydref y flwyddyn nesaf," meddai, gan awgrymu bod amserlen rhyddfraint yn parhau ar y trywydd iawn.

Wrth ateb cwestiwn ar y ddadl gyda'r Ysgrifennydd Gwladol ar Gludiant, Chris Grayling am ariannu, dywedodd Mr Skates: "Rydym yn dal i deimlo nad yw'r cytundeb a gafwyd yn 2014 wedi ei anrhydeddu.

"Rwy'n teimlo fod y cytundeb y daethpwyd iddo gyda'i ragflaenydd yn eglur iawn.

"Rwyf wastad wedi bod o'r farn na fyddai yna effaith ar y grant bloc, fel y mae'r cytundeb yn nodi, ond mae'n ymddangos fod y safbwynt hwnnw wedi newid ar lefel y DU.

"Dydy e ddim yn cytuno fod y cytundeb yn 2014 yn cynnwys ad-daliad ar d芒l mynediad i'r cledrau."