Cymro ar dop ei g锚m
- Cyhoeddwyd
Yn y byd gemau cyfrifiadurol mae EA Sports yn un o'r cwmn茂au sy'n arwain y ffordd, gan gynhyrchu gemau rygbi, hoci i芒, p锚l-fasged, a bocsio hynod boblogaidd.
Ymysg y mwya' adnabyddus mae'r gyfres b锚l-droed FIFA, ac mae'r diweddara', FIFA 18, ar werth ar 29 Medi.
Un sy'n gweithio i EA Sports yn Vancouver ydy Gwyn Jones o Rhiwlas, ger Bangor. Bu'n siarad gyda Cymru Fyw am ei brofiadau'n gweithio i un o'r brandiau chwaraeon mwyaf eiconig a'i fywyd ers iddo symud i Ganada:
O'n i'n gweithio yn Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd fel anogwr dysgu, ond nes i benderfynu codi pac a symud i Ganada er mwyn bod gyda fy nghariad (sydd bellach yn wraig i mi), Bronwyn.
Doedd dysgu yma yn Vancouver ddim yn opsiwn yn syth gan fod fy nghymwysterau ddim yn trosglwyddo. Felly yn lle mynd n么l i'r coleg am flwyddyn a hanner gyda chostau uchel, es i am swydd gyda EA Sports.
Yn ystod y cyfweliad daeth hyfforddi a llwyddiannau t卯m p锚l-droed Ysgol Plasmawr yn ddefnyddiol ac roedd o'n destun sgwrs. Roedd y t卯m ysgol yn bencampwyr ysgolion Prydain ac Iwerddon yn 2014.
Pwysigrwydd y manylion
Dwi wedi bod yn rhan o'r adran gynhyrchu yn y t卯m DCL (Data Collection and Licensing), gan gasglu data a thrwyddedu.
Yn ddiweddar o'n i'n gweithio ar FIFA 18, a ni oedd yn gyfrifol am wneud yn si诺r fod popeth yn edrych yn authentic yn y g锚m.
Mae'n rhaid bod yn hynod o ofalus oherwydd os 'da chi'n gwneud camgymeriadau a chreu deunydd anghywir fe all fod yn niweidiol i ddelwedd y cwmn茂au a'r unigolion, ac all arwain at broblemau cyfreithiol.
'Da ni'n cyd-weithio gyda chwmn茂au fel Adidas a Nike, a chynghreiriau mawr y byd fel Uwch Gynghrair Lloegr a La Liga Sbaen, yn ogystal 芒'r rhai llai adnabyddus fel cynghrair Colombia.
Mae'n gallu bod yn anodd yn gyfreithiol i ddweud gwir, gan fod yn rhaid cael yr hawliau a thrwyddedau cywir.
Yr elfennau dwi'n gyfrifol amdanyn nhw ydy'r kits a'r accessories- pethau fel esgidiau'r chwaraewyr, menig y golwr, y peli, byrddau hysbysebu, a hefyd y starheads, sef pennau'r prif chwaraewyr sydd wedi eu sganio gan beiriant 360 gradd.
Mae rhai pethau annisgwyl hefyd, fel gwneud yn si诺r ein bod efo'r hawliau i ddangos tat诺'r chwaraewyr gan mai artist y tat诺 sydd efo'r hawlfraint dros ei gelf weithiau, a pherson trin gwallt sydd 芒'r hawlfraint dros steil chwaraewr, fel Marco Reus ar glawr FIFA 17.
Gweithio i EA Sports
Mae 'na dros 2,500 yn gweithio yn Vancouver, ac mae 'na swyddfeydd o amgylch y byd. Mae'n swyddfa gr锚t i weithio ynddi, gyda bwyty, caffi, siop, arcade (am ddim), cyrtiau p锚l-droed a ph锚l-fasged o dan do, cae astroturf, cwrt volleyball tywod a chwrt roller hockey.
Hefyd yn yr adeilad mae 'na bob math o adnoddau gan gynnwys llyfrgell, sinema, campfa ac ystafelloedd triniaeth (massage). Mae'n bosib dilyn llwybr natur a mae 'na fan i gael barbeciw heb son am lefydd i ymlacio ar bob llawr.
Mae hi'n fraint i fod yma a chael gwybod mai, heblaw am y clybiau, ni ydy'r cyntaf i weld deunydd fel y citiau newydd, a 'da ni'n gwylio gemau p锚l-droed yn fyw wrth weithio - ar gyfer ymchwil wrth gwrs!
Mae 'na gynghrair b锚l-droed ar y cae bob amser cinio felly mae amser mwynhau yn rhan o'r dydd hefyd, a does dim deud pwy allai ddod i ymweld 芒'r stiwdio - roedd Justin Trudeau [Prif Weinidog Canada] yma am y diwrnod yn ddiweddar.
Mae'r gemau poblogaidd NHL (hoci i芒), Plant v Zombies, UFC, Star Wars Battlefront ac wrth gwrs FIFA i gyd yn cael eu cynhyrchu yma.
Barf Ledley a'r Gymraeg
Dwi'n falch fy mod wedi bod yn rhan o FIFA 16, 17 ac 18. Roedd hi'n wych cael cynnwys timau merched yn y g锚m am y tro cyntaf ar FIFA 16, a datblygiad o greu 'g锚m gyrfa' Alex Hunter yn 2017.
Mae barf Joe Ledley (o'r diwedd) wedi ei chynnwys yn y g锚m eleni- nes i wthio am hyn am dair mlynedd, a dyma'r barf cyntaf o'i fath yn hanes y g锚m.
Mae gen i r么l fechan yn FIFA 18 hefyd - edrychwch allan am physio o'r enw G. Jones yn y g锚m!
Ond yn bwysicach fyth dwi'n hynod falch mod i wedi sicrhau fod baneri Cymru (yn Gymraeg) yn y g锚m am y tro cyntaf - efallai y tro cyntaf i'r Gymraeg gael ei gweld mewn g锚m mor fawr?
Dwi'n mwynhau gwthio Cymru lle gallai yn y stiwdio a dwi'n teimlo bod yr ymwybyddiaeth o Gymru ac ein hiaith wedi cynyddu yn ddiweddar - mi wnaeth y llwyddiant yn Ewro 2016 helpu gyda hynny.
Weithiau bydd crysau p锚l-droed yn cael eu hanfon i ni yn y swyddfa, ond yn anffodus 'da ni heb gael un gan d卯m Cymru eto (hint hint Joe Ledley).
Hiraeth
Dwi'n colli'r bobl mwy na dim, ac mae wedi bod yn aberth mawr symud yma i fod efo Bronwyn.
Un poendod mawr ydi mod i yn methu gwylio gemau p锚l-droed Lerpwl a Chaerdydd ar amser call yn y dafarn efo ffrindiau a methu mynd i gemau Cymru yn y stadiwm. Er, ges i wyliau da llynedd yn dilyn Cymru yn Ffrainc.
Siaradodd Gwyn gyda rhaglen Ar y Marc ar Radio Cymru, i'w darlledu 8.30 bore dydd Sadwrn, 30 Medi.