Angen gwell ymchwil i glefyd y galon mewn merched
- Cyhoeddwyd
Mae bron i 200,000 o ferched yng Nghymru yn byw gyda chlefyd y galon, yn 么l ffigyrau gan British Heart Foundation Cymru.
Mae ffigyrau'r elusen hefyd yn dangos fod bron i 4,500 o ferched yn marw yng Nghymru o ganlyniad i drawiad ar y galon neu str么c.
Er bod cyfradd marwolaethau o ganlyniad i drawiadau'r galon wedi gwella, does dim ffordd o rwystro pobl rhag datblygu clefyd y galon wrth iddyn nhw fynd yn h欧n.
Mae BHF Cymru yn dweud fod y ffigyrau yn chwalu'r myth fod clefyd y galon yn "glefyd sy'n effeithio dynion", ac yn dangos fod angen gwell ymchwil i rwystro'r cyflwr ac i wella diagnosis o ran trin y cyflyrau.
Mae gwaith ymchwil ar ran yr elusen hefyd yn dangos fod merched 50% yn fwy tebygol o dderbyn y diagnosis anghywir yn dilyn trawiad ar y galon, sydd weithiau'n gallu arwain at ganlyniadau gwael.
Mae BHF wedi buddsoddi 拢5m i ymchwil cardofasciwlar yng Nghymru ac mae 18 o grantiau ymchwil yn gweithredu ar hyd y wlad.
Ar hyn o bryd mae t卯m o Brifysgol Abertawe dan arweinyddiaeth Dr Nia Lowri Thomas yn ymchwilio i sut mae cyhyrau'r galon yn gweithredu a sut mae gwella rhythm y galon sy'n afreolaidd, diolch i grant gan BHF.
Dywedodd cyfarwyddwr meddygol BHF, yr Athro Syr Nilesh Samani fod y ffigyrau'n dangos y broblem gynyddol o glefyd y galon yng Nghymru.
"Mae'r ffigyrau yn dangos yn glir nad yw menywod yn ddiogel rhag clefyd y galon ac mae angen ymwybyddiaeth well er mwyn iddyn nhw dderbyn gwell gofal," meddai.
"Rydym angen buddsoddi mwy o waith er mwyn cael gwell ddealltwriaeth o effaith clefyd y galon a helpu datblygu ffyrdd gwell o'i arbed, gwell diagnosis a'i drin."