Plaid Cymru i gefnogi cyllideb y llywodraeth Lafur
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wedi cytuno i gefnogi cyllideb Llywodraeth Cymru am y ddwy flynedd nesaf.
Mae'r cytundeb, sydd werth 拢210m, yn cynnwys hwb o 拢40m i gyllid iechyd meddwl, a 拢40m o fuddsoddiad mewn addysg uwch ac addysg bellach rhwng 2018 a 2020.
Dywedodd Adam Price o Blaid Cymru y bydd y gyllideb yn darparu "budd i fywydau pobl Cymru".
Ond fe all y fargen hon fod yr un olaf i'w ffurfio rhwng Plaid Cymru a Llafur.
Ymrwymiadau
Mae Llywodraeth Cymru i fod i gyhoeddi'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2018/19 ddydd Mawrth, ac mae angen cefnogaeth o du allan i Lafur i basio'r gyllideb drwy'r Cynulliad.
Mae'r cytundeb gyda Phlaid Cymru yn cynnwys 拢30m ar gyfer p诺erdy yng ngwaith dur Port Talbot, a 拢2m i dorri tollau Pont Cleddau erbyn 2020 - sy'n 75c ar gyfer ceir.
Mae'r ymrwymiadau eraill yn cynnwys:
拢14m i ddatblygu hyfforddiant meddygol israddedig yng ngogledd Cymru;
拢15m ar gyfer gwelliannau i'r A487 a'r A470 o 2019 ymlaen;
拢3m ar gyfer dylunio a datblygu trydydd pont Menai;
拢5m i amgueddfa gelf genedlaethol ac amgueddfa b锚l-droed gogledd Cymru o 2019 ymlaen;
Buddsoddiad o 拢10m yn yr iaith Gymraeg;
Dim toriadau i'r grant sy'n cefnogi pobl fregus i fyw'n annibynnol.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford, bod y llywodraeth yn "falch" o "allu cytuno ar y fargen ddwy flynedd hon gyda Phlaid Cymru, sy'n rhoi sicrwydd i'n cyllideb i gyd".
"Mae'r cytundeb hwn yn adeiladu ar y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru y llynedd, ac mae'n cynnwys cyfres o ddyraniadau rheolaidd ar gyfer y Gymraeg, y celfyddydau, gofal diwedd oes, iechyd meddwl, addysg uwch a Chroeso Cymru.
"Rydym hefyd wedi gallu cytuno ar gyllid cyfalaf i ddatblygu canolfan gofal iechyd integredig yn Aberteifi ac i adeiladu ar ganlyniadau'r astudiaethau dichonoldeb i gael oriel gelf genedlaethol ac amgueddfa b锚l-droed yn y gogledd, y cytunwyd arnynt fel rhan o'r cytundeb y llynedd."
Ynghyd 芒'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, sy'n Ddemocrat Rhyddfrydol, mae angen un pleidlais ychwanegol ar Lafur, neu o leiaf un o'r gwrthbleidiau i ymatal i gael cyllidebau drwy'r Senedd.
Mae Plaid Cymru yn bwriadu ymatal ym pleidleisiau'r gyllideb.
Os fydd Plaid Cymru yn gwrthod helpu Llafur yn y dyfodol, gallai fod angen dibynnu ar gefnogaeth yr Arglwydd Elis-Thomas AC, sy'n cefnogi'r llywodraeth ond yn annibynnol.
'Darparu ar gyfer Cymru'
Dywedodd Adam Price, llefarydd Plaid Cymru ar gyllid, busnes a'r economi: "Bydd y cytundeb hwn ar y gyllideb yn darparu ar gyfer pobl a chymunedau ym mhob rhan o Gymru.
"Mae'n gwarchod y rheini sy'n agored i niwed, yn buddsoddi yn ein pobl ifanc, ac yn arloesi er mwyn dyfodol pob un ohonom.
"Dyma gytundeb i Gymru gyfan, o'r Cleddau i'r Fenai, o Wrecsam i'r Rhondda, o ddiwylliant i amaethyddiaeth, o ynni a thrafnidiaeth i addysg ac iechyd - syniadau newydd ar gyfer Cymru newydd."