Angen 'camau difrifol' i recriwtio mwy o ferched t芒n
- Cyhoeddwyd
Mae angen i'r awdurdodau t芒n gymryd "camau difrifol" i recriwtio mwy o ddiffoddwyr benywaidd yng Nghymru, yn 么l un elusen sy'n hyrwyddo cydraddoldeb.
Daw'r alwad ar 么l cais Rhyddid Gwybodaeth gan 大象传媒 Cymru, a ddatgelodd mai dim ond 4% o ymladdwyr t芒n yng Nghymru sy'n ferched.
Dywedodd elusen Chwarae Teg fod y ffigyrau'n siomedig ond ddim yn "syndod".
Dywedodd y tri gwasanaeth t芒n yng Nghymru eu bod yn cynnal "dyddiau gweithredu positif" i annog diffoddwyr newydd posib o grwpiau lleafrifol i ymuno 芒'r gwasanaeth.
Gofynnwyd i wasanaethau Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gogledd Cymru a De Cymru ddarparu ffigyrau cyflogaeth ar gyfer eu staff.
Nid oedd y ffigyrau'n cymharu'n ffafriol gyda rhai heddluoedd Cymru, lle mae tua 30% o swyddogion yn ferched.
Diffoddwyr t芒n benywaidd yng Nghymru yn 2017:
De Cymru: 34 (2.4%)
Canolbarth a Gorllewin Cymru: 58 (5.2%)
Gogledd Cymru: 36 (5.4%)
Swyddogion heddlu benywaidd yng Nghymru yn 2017:
Heddlu De Cymru: 900 (% ddim ar gael)
Heddlu Dyfed-Powys: 372 (32%)
Heddlu Gwent: 389 (33%)
Heddlu Gogledd Cymru: 510 (34%)
Cyflwynodd Gwasanaeth T芒n Gogledd Cymru ffigyrau yn dyddio'n 么l i 2006, De Cymru i 2007 a Chanolbarth a Gorllewin Cymru ers 2009.
De Cymru oedd 芒'r gyfran isaf o ddiffoddwyr t芒n benywaidd, gyda'r ganran yn llai 'na 3% bob blwyddyn am y 10 mlynedd diwethaf.
'Stereoteipio'
Dywedodd Prif Weithredwr Chwarae Teg, Cerys Furlong, fod angen "cymryd camau difrifol" i fynd i'r afael 芒'r gwahaniaeth.
"Mae pobl yn dweud wrth fechgyn ifanc y dylent geisio anelu am broffesiynau fel y gwasanaeth t芒n, tra bod pobl yn dweud wrth ferched nad ydynt yn ddigon cryf na dewr i wneud y gwaith," meddai.
"Mae plant yn wynebu stereoteipio rhyw o'r cychwyn, o'r teganau y maent yn eu chwarae, i'r llyfrau y maent yn eu darllen, i'r gwisgoedd y maent yn eu gwisgo, a hyd yn oed yr hyn maent yn ei ddysgu yn yr ysgol."
Dywedodd rheolwr gorsaf d芒n Llanelli, Hannah Lodder, sy'n 41 ac wedi bod yn ddiffoddwr t芒n ers 20 mlynedd, ei bod wedi wynebu rhai rhwystrau yn ei gyrfa oherwydd ei rhyw.
Ond ychwanegodd bod y gwasanaeth yn "esblygu'n gyson" a bod "mwy o diffoddwyr sy'n fenywod i'w weld erbyn hyn".
Dywedodd rheolwr adnoddau dynol Gwasanaeth T芒n Gogledd Cymru, Llinos Gutierrez-Jones, bod nifer o feini prawf mae'n rhaid i'r gwasanaeth eu sicrhau wrth recriwtio diffoddwyr t芒n newydd, gan gynnwys bod yn ffit ac yn iach yn gorfforol.
Ond maen nhw hefyd am i'r gweithlu "gynrychioli'r cymunedau amrywiol y maent yn eu gwasanaethu".
Dywedodd Mark Malson, rheolwr adnoddau dynol Gwasanaeth T芒n De Cymru, fod ganddo strategaeth hefyd i gefnogi recriwtio menywod.