Cyllideb: 'Dim ffordd arall ond codi trethi cyngor 5%'

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Debbie Wilcox nad oedd ffordd arall ymlaen heb gynyddu trethi

Mae'n amhosib gweld sut all cynghorau wneud unrhyw beth ond cynyddu treth y cyngor o 5% y flwyddyn nesaf, yn 么l arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Roedd Debbie Wilcox yn ymateb i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, fydd yn golygu toriad o rhwng 1.5% a 2% ar 么l chwyddiant y flwyddyn nesaf.

Roedd y gyllideb hefyd yn cynnwys newidiadau i'r dreth ar brynu eiddo a mwy o arian i wasanaethau iechyd.

'Dim ffordd arall'

Ar raglen Radio Wales, Good Morning Wales, gofynnwyd i Ms Wilcox os y byddai'n rhaid i gynghorau gynyddu'r dreth o'r uchafswm o 5%.

Dywedodd: "'Alla i ddim gweld sut arall y gallwch chi ei wneud.

"Eto rydyn ni'n taro'r bobl sydd eisoes wedi eu taro gan doriadau, felly rydyn ni'n gofyn i bobl dalu mwy am lai o wasanaethau allwn ni eu darparu.

"Dyna yw'r realiti economaidd, ac mae'n anodd iawn gofyn i bobl dalu mwy o dreth cyngor pan mae gwasanaethau mor denau."

Ychwanegodd Ms Wilcox bod ei hawdurdod lleol hi, Casnewydd, wedi gwario 70% o'i gyllideb ar addysg a gwasanaethau cymdeithasol, sy'n feysydd mae'r llywodraeth wedi penderfynu na all gael eu torri.

Ffynhonnell y llun, 大象传媒/Getty Images

Bydd maint y grant gan y llywodraeth i bob cyngor unigol yn cael ei gyhoeddi ar 10 Hydref.

Yn ogystal a'r grant gan y llywodraeth, mae cynghorau hefyd yn derbyn arian drwy dreth y cyngor a taliadau am rai gwasanaethau fel parcio, ac mae ganddyn nhw'r hawl i fenthyg arian.

Newid i dreth y cyngor

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgynghori ar newidiadau i drethi cyngor yn 2018, gyda gweinidogion yn bwriadu gwneud newidiadau "sy'n elwa'r rhai sy'n cael trafferth talu eu biliau treth y cyngor".

Gall hefyd gynnwys bod y llywodraeth yn edrych eto ar y bandiau prisiau eiddo ac yn eu diweddaru i bwrpas treth y cyngor. Cafodd tai eu prisio am y tro diwethaf ym mis Ebrill 2003.

Dydd Mawrth, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford bod y gyllideb wedi cael ei llunio dan gysgod polisi llymder llywodraeth Geidwadol y DU a'i fod "yn golygu ein bod yn parhau i wynebu toriadau i'n cyllideb".

"Erbyn diwedd y ddegawd, bydd wedi cael ei thorri 7% mewn termau real ers 2010 - sef 拢1.2bn yn llai i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol," meddai.