Gwiwerod coch: Pryder am firws 'hynod heintus' yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru yn annog pobl i fod yn wyliadwrus o haint sy'n effeithio ar y boblogaeth y cnofilod yn y gogledd.
Mae swyddogion yr ymddiriedolaeth eisoes wedi rhybuddio sut allai brech angheuol gael effaith ddifrifol ar boblogaeth y rhywogaeth, wedi i un achos o'r haint gael ei ddarganfod.
Daeth swyddogion o hyd i wiwer wedi'i heintio yng ngerddi Treborth, Bangor ac ers hynny maent wedi bod yn chwilio am fwy sydd wedi'i heintio yn yr ardal.
Yn 么l Dr Craig Shuttleworth o Brifysgol Bangor fe allai'r firws fod yn "hynod heintus".
Mae'r firws yn cael ei gario gan wiwerod llwyd yn effeithio'n unig ar wiwerod coch.
Mae'r ymddiriedolaeth hefyd yn pryderu bod niferoedd y wiwer goch yn yr ardal wedi gostwng yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac mae 'na bryder yngl欧n 芒'r effaith allai'r frech gael ar boblogaeth Ynys M么n.
Mae Dr Shuttleworth wedi anfon nifer o argymhellion ac yn gofyn i'r cyhoedd gynorthwyo yn y chwilio cyn i'r firws ledaenu'n bellach.
Mae'r argymhellion yn cynnwys:
Adrodd am unrhyw wiwer goch sy'n cael ei darganfod yn farw;
Glanhau byrddau bwyd gwyllt mewn gerddi'n aml;
Gwasgaru bwyd ar y llawr yn hytrach na defnyddio byrddau pren;
Edrych yn ofalus ar wiwerod a chwilio am grachod a swigod ar y croen.
Ychwanegodd Dr Suttleworth ei fod yn pryderu'n fawr gan fod y firws yn gallu "ymledu'n sydyn".
"Fe allai ladd 90% o boblogaeth gwiwerod yr ardal o fewn misoedd," meddai.
"Rydym yn pryderu am boblogaeth gwiwerod yng Ngwynedd ond mae poblogaeth uchel ar Ynys M么n sy'n agos iawn at y pontydd.
"Os byddai'n cyrraedd fanno fe allai fod yn drychinebus.
"Mae'n achos unigryw ond mae'n dasg anodd dod o hyd i wiwerod meirw mewn ardal goediog mor fawr. Dyna pam rydym yn dibynnu ar y cyhoedd i adrodd am unrhyw achos."