大象传媒

Galw am lwybrau mwy diogel i annog pobl i seiclo

  • Cyhoeddwyd
CyclingFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae galwadau am lwybrau seiclo mwy diogel sydd 芒 chysylltiadau gwell yng Nghymru i annog mwy o bobl i ddechrau seiclo.

Mae ffigyrau newydd yn dangos mai dim ond 5% o oedolion sy'n seiclo er mwyn teithio o le i le o leiaf unwaith yr wythnos, tra bo 61% yn cerdded.

Yn 么l elusen Sustrans Cymru mae pryder am ddiogelwch yn atal pobl rhag seiclo, a bod angen llwybrau sy'n "ddeniadol a chysylltiedig."

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "teithio llesol" yn rhan o nifer o'u cynlluniau.

Teithio llesol yw cerdded am o leiaf pum munud neu seiclo i gyrraedd lleoliad penodol.

'Diogelwch yn bryder'

Dywedodd Natasha Withey o Sustrans Cymru: "Ry'n ni'n gwybod bod diogelwch yn aml yn bryder sy'n atal pobl rhag dewis seiclo.

"Fe wnaeth ein hastudiaeth yn 2015 ddatgelu bod 82% o drigolion Caerdydd eisiau gwell diogelwch er mwyn eu hannog i seiclo.

Ychwanegodd fod pobl eisiau llwybrau di-draffig hefyd.

Ffynhonnell y llun, Sustrans Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sustrans yn dweud bod 82% o bobl Caerdydd eisiau gwell diogelwch er mwyn eu hannog i seiclo

Yn 2013 cafodd Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ei phasio i annog mwy o bobl i gerdded neu seiclo yn hytrach na defnyddio car.

Mae Caerdydd hefyd 芒'r nod o fod yn "ddinas i seiclwyr" erbyn 2026.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y ddeddf "arloesol" wedi "derbyn canmoliaeth ryngwladol."

"Mae nifer o brosiectau wedi cael budd ohono'n barod, gyda theithio llesol yn cael ei gynnwys fel rhan o gynlluniau fel ei fod yn rhan arferol o ddatblygiadau newydd, yn hytrach na chael ei drin fel ystyriaeth a chost ychwanegol," meddai'r llefarydd.