Comisiynydd Plant: 'Angen gofal plant am ddim i bawb'
- Cyhoeddwyd
Dylai cynllun gofal plant am ddim gael ei ymestyn fel nad yw'n effeithio datblygiad y rhai sy'n cael eu heithrio o'r cynllun ar hyn o bryd, yn 么l adroddiad.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig 30 awr yr wythnos o ofal am ddim i blant tair a phedair oed ar gyfer rieni sy'n gweithio, a hynny am 48 wythnos y flwyddyn.
Ond mewn adroddiad blynyddol, mae Comisynydd Plant Cymru, Sally Holland, yn pryderu fod plant i rieni sy'n ddi-waith, yn gynyddol ar eu colled yn y pendraw o gael eu heithrio o'r cynllun gofal am ddim.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n astudio'r adroddiad yn y man.
'Effaith anferth ar ddatblygiad'
Erbyn iddyn nhw fod yn dair oed, mae plant o'r cefndiroedd tlotaf tua 10 mis y tu 么l plant o deuluoedd cyfoethog o ran datblygiad, yn 么l gwaith ymchwil Millennium Cohort.
Mae'r comisiynydd yn dweud y byddai sicrhau bod plant o bob cefndir yn cael yr un gofal yn lleihau'r bwlch.
Yn siarad fore Llun, dywedodd Ms Holland: "Mae tystiolaeth gryf yn dangos bod gofal plant o ansawdd da yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i ddatblygiad plant sy'n byw mewn tlodi.
"Os nad yw'r llywodraeth yn cynnig yr un ddarpariaeth i blant sydd 芒 rhieni sydd ddim yn gweithio, maen nhw'n debygol o gwympo y tu 么l i'w cyfoedion hyd yn oed yn fwy."
Ychwanegodd: "Ffocws yr alwad hon yw plant, nid rhieni. Mae gofal plant o safon dda yn gallu cael effaith anferth ar ddatblygiad plant, yn cynnwys datblygiad eu sgiliau ieithyddol a chymdeithasol.
"Felly dylen ni ddim ystyried gofal plant fel rhywle i fynd tra bod rhieni yn gweithio yn unig.
"Mae'r dystiolaeth yn dangos bod addysg blynyddoedd cynnar, a gofal plant o safon dda, yn gwneud gwahaniaeth mawr i safon bywyd plant o'r cefndiroedd tlotaf."
'Amddiffyniad rhag tlodi'
Mae'r adroddiad hefyd yn galw am newidiadau eraill yn cynnwys creu cofrestr o blant sy'n cael eu haddysg gartref, cymorth i blant sydd wedi eu mabwysiadu i gysylltu 芒 brodyr a chwiorydd, a chymorth i rieni plant byddar allu cyfathrebu yn well.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai, "gwaith yw'r ffordd orau allan o dlodi, a'r amddiffyniad gorau yn ei erbyn."
Ychwanegodd: "Mae ein cynnig gofal plant wedi ei gynllunio i gael gwared 芒'r rhwystrau rhag gweithio a thlodi mewn gwaith drwy leihau'r costau o weithio."
Dywedodd y llefarydd bod cynlluniau eraill i roi cymorth gyda chostau gofal plant mewn grym.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2015