大象传媒

Delio efo panig

  • Cyhoeddwyd
aber
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Manon Elin yn fyfyrwraig ymchwil yn adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth

Mae pyliau o banig a gor-bryder yn norm i un ferch o Aberystwyth. Dyma Manon Elin, un o sylfaenwyr .

Cyflwr o'r enw dadwireddu sydd gan Manon Elin - mae hi'n rhannu ei phrofiad gyda Cymru Fyw:

Dwi'n teimlo fel 'mod i ar goll, er fy mod i'n gwybod yn iawn ble ydw i, teimlo fel petawn i mewn swigen, a bod pawb a phopeth o'm cwmpas yn teimlo'n bell.

Fel petawn i'n breuddwydio, ond yn ymwybodol o beth sy'n digwydd ar yr un pryd. Teimlo 'mod i ar fin llewygu, colli rheolaeth a cholli cysylltiad gyda fy hun. Dwi'n ysu am gael cyrraedd adref i deimlo'n ddiogel.

Gyda fi, mae'n symptom o or-bryder a phyliau o banig yn hytrach nag yn anhwylder yn ei hun. Mae'n deimlad o fod mewn breuddwyd, fel bod pethau o fy nghwmpas yn ymddangos yn ddieithr, yn bell ac yn afreal. Fel nad ydw i wir yno.

Cefais fy mhwl cyntaf o banig ddeng mlynedd yn 么l, pan o'n i'n 12 oed. Ar y pryd, ac am flynyddoedd wedyn, doedd dim syniad gen i beth oedd y teimladau hyn. Wnes i ddim s么n wrth braidd neb am hyn am flynyddoedd.

Doedd dim syniad gyda fi beth oedd yn digwydd - sut allen i esbonio wrth rywun arall? Doedd gen i ddim y geiriau i fynegi'r teimlad. Yr unig ffordd allwn i ei ddisgrifio oedd 'mod i'n 'teimlo'n rhyfedd'.

Ffynhonnell y llun, Manon Elin

Teimlo'n 'anweledig'

Am flynyddoedd ro'n i'n credu mai fi oedd yr unig un yn y byd oedd yn cael y teimladau yma. Wnaeth e gymryd blynyddoedd i fi ddarganfod enw i'r teimlad, a dim ond yn ddiweddar dw i'n sylweddoli ei fod e'n gysylltiedig gyda gor-bryder a phyliau o banig.

Roedd yn gymaint o ryddhad dod ar draws enw i'r teimladau hyn am y tro cyntaf, a sylweddoli ei fod yn salwch dilys a bod pobl eraill yn teimlo'r un fath.

Pan roeddwn i'n dechrau cael y pyliau yn ifanc, ro'n i'n rhewi ac yn sgrechian am help. Dyna pa mor erchyll yw dadwireddu ar ei waethaf.

Pan mae e ar ei waethaf mae'n dod 芒 theimladau corfforol o banig - crynu, crychguriadau calon, fy nghoesau'n teimlo'n wan, teimlo fy mod i ar fin colli rheolaeth ac yn ysu i ddianc. Un o'r pethau gwaethaf amdano yw ei fod yn gallu dechrau a gwaethygu o fewn eiliadau.

Mae hefyd yn anodd ei fod yn hollol anweledig. Fel y rhan fwyaf o gyflyrau iechyd meddwl, does dim unrhyw arwydd allanol ohono.

Yr amgylchiadau sy'n ei achosi a'i waethygu yw llefydd prysur, anghyfarwydd, pell o adre, ac mae'n aml yn waeth wrth fynd allan yn gyffredinol. Mae pethau bach fel blinder, straen, alcohol a chaffein hefyd yn ei waethygu. Ac weithiau mae'n wael heb unrhyw reswm amlwg.

Meddygon ddim yn deall

Dw i wedi gweld nifer fawr o feddygon a gweithwyr iechyd meddwl ar hyd y blynyddoedd, a dw i ddim yn teimlo bod yr un ohonyn nhw wir yn deall dadwireddu.

Dydyn nhw'n sicr ddim wir yn sylweddoli pa mor frawychus yw e. Dw i wastad yn gorfod esbonio iddyn nhw beth yw dadwireddu, yn hytrach na'u bod nhw yn ei esbonio wrtha i.

Dw i'n llwyddo i fyw gyda'r cyflwr drwy gyfuniad o sawl cwrs o gwnsela, technegau CBT a DBT, ymwybyddiaeth ofalgar a meddyginiaeth.

Mae'r cyfan wedi cyfrannu at fy ngalluogi i fyw gyda'r gor-bryder a dadwireddu o ddydd i ddydd.

Ffynhonnell y llun, Manon Elin

Y peth sy'n helpu fwyaf gyda'r dadwireddu yw distractions a thechnegau daearu (grounding) - teimlo'r llawr dan fy nhraed, teimlo defnydd y gadair dwi'n eistedd arni, a chymryd sylw manwl o'r pethau bach sydd o 'nghwmpas i - beth dw i'n gweld, teimlo, clywed.

Mae pethau bach fel gwrando ar gerddoriaeth drwy glustffonau hefyd yn gwneud byd o wahaniaeth - mae'n cau prysurdeb allan ac yn gweithio fel distraction da.

Mae'n help i mi ddweud wrth fy hun 'dw i yma, dim ond teimlad yw hyn, dw i wedi profi hyn ganwaith o'r blaen ac wedi goroesi.'

Os ydw i'n gwybod sut fyswn i'n gadael sefyllfa neu yn gallu cyrraedd lle tawel yn hawdd, dw i'n teimlo'n fwy cyfforddus, ac mae'r dadwireddu yn llai.

Stori: Llinos Dafydd