Rhybudd am berygl chwysigod m么r yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Mae yna rybudd i ymwelwyr 芒 thraethau ar hyd arfordir Ceredigion i fod yn ofalus ar 么l i nifer o greaduriaid m么r gwenwynig gael eu golchi i'r lan.
Yn 么l Bad Achub Aberystwyth a Chanolfan Ymwelwyr Dyfi Ynyslas, mae sawl chwysigen f么r wenwynig, neu 'Portugese Man-o-War', wedi cael eu darganfod ar draethau'r ardal dros y dyddiau diwethaf.
Dros y penwythnos fe ddaeth staff Bad Achub Aberystwyth o hyd i rai o'r creaduriaid ar draeth gogledd y dre.
Maen nhw'n gofyn i bobl i beidio 芒'u codi, yn enwedig plant, "a allai eu camgymryd am falwn sydd wedi crebachu".
Mewn rhai achosion, mae'r gwenwyn yn gallu achosi marwolaeth.
Mae'r chwysigod m么r gwenwynig gan amlaf yn byw yng Nghefnfor yr Iwerydd ac ardaloedd mwy deheuol, ond dros y misoedd diwethaf mae nifer cynyddol wedi ymddangos ar draethau gorllewin Cymru.
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod yn ymwybodol fod y creaduriaid wedi ymddangos ar draethau lleol yn ddiweddar, a bod adroddiadau iddyn nhw gael eu gweld ar draethau Ynyslas, Borth, Clarach, Aberystwyth, Llangrannog, Llanrhystud a Cheinewydd.
"Mae'r creaduriaid hyn, sy'n debyg i sglefrod m么r, yn gallu rhoi pigiad poenus hyd yn oed ar 么l iddyn nhw farw.
"Os cewch chi neu'ch ci eich pigo a'ch bod yn cael poen difrifol neu boen sy'n para, dylech chi fynd i gael sylw meddygol neu filfeddygol ar unwaith."
Y cyngor o ran Iechyd a Diogelwch yw:
Peidiwch 芒 chyffwrdd chwysigod m么r.
Peidiwch 芒 cherdded yn droednoeth.
Cadwch g诺n draw.