'Marc cwestiwn' am ddyfodol ombwdsmon wedi ffrae ar-lein
- Cyhoeddwyd
Mae AC Plaid Cymru'n dweud bod "marc cwestiwn" am ddyfodol yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus wedi iddo fod mewn ffrae ar wefan Facebook.
Fe wnaeth Adam Price gyhuddo Nick Bennett o gefnogi'r cynnig i gael gwared ar r么l Comisiynydd y Gymraeg.
Mae Mr Bennett wedi cynnig cymryd cyfrifoldeb am y cwynion am wasanaethau yn y Gymraeg.
Yn dilyn y ffrae, fe wnaeth amddiffyn ymateb i sylwadau gan bobl oedd yn gwrthwynebu'r syniad, gan ddweud mai eu "cywiro" yr oedd wedi'i wneud.
'Gor-fiwrocrataidd a chymhleth'
Mewn ymateb i ymgynghoriad ar ddiddymu r么l Comisiynydd y Gymraeg, dywedodd Mr Bennet y gallai ddatrys cwynion yn gynt na'r system bresennol, sy'n "or-fiwrocrataidd a chymhleth" yn ei 么l ef.
Dywedodd yr ombwdsmon mai ymchwilio fyddai ei r么l ef, ac mai'r comisiynydd - neu Gomisiwn y Gymraeg fel mae Llywodraeth Cymru eisiau ei greu - fyddai'n gyfrifol am unrhyw gosbau.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwyno wrth gadeirydd pwyllgor cydraddoldeb y Cynulliad, John Griffiths, am gynigion Mr Bennett a'r ffrae ar Facebook.
Dywedodd y mudiad y dylai'r ombwdsmon fod yn ddiduedd.
Mewn post Facebook, fe ddywedodd Mr Price nad oedd yn cytuno 芒'r cynnig i drosglwyddo cyfrifoldebau'r comisiynydd i'r ombwdsmon, a hynny oherwydd ei fod wedi dyfarnu yn erbyn Cyngor Cymuned Cynwyd yn y gorffennol am beidio 芒 darparu ei holl ddogfennau yn Saesneg, yn ogystal 芒'r Gymraeg.
Ychwanegodd Swyddog Cyfathrebu Cymdeithas yr Iaith, Colin Nosworthy sylw yn dweud bod y penderfyniad hwnnw yn dangos nad oedd Mr Bennett yn deall y gyfraith ar y Gymraeg.
Fe wnaeth yr ombwdsmon ymateb gan ddweud bod honiad Mr Nosworthy yn "nonsens", gan ddweud nad oedd unrhyw un wedi herio ei benderfyniad yn gyfreithiol.
Galw am ymchwiliad
Dywedodd Mr Price: "Mae'r ffaith dy fod ti yn collfarnu un o brif fudiadau iaith yng Nghymru yn y modd mwyaf cyhoeddus fel hyn yn tanseilio ffydd yn eich gallu i fod yn amddiffynnydd hawliau siaradwyr Cymraeg."
Ychwanegodd bod Mr Bennett wedi torri cytundeb rhyngo ef a Chomisiynydd y Gymraeg i beidio 芒 gwneud sylw ar waith ei gilydd.
"Rwy'n meddwl bod llinell wedi'i chroesi," meddai Mr Price.
Pan ofynnwyd iddo a oedd yn credu y dylai'r ombwdsmon golli ei swydd, dywedodd Mr Price bod "marc cwestiwn difrifol", gan ychwanegu ei fod wedi gofyn i Mr Griffiths gynnal "ymchwiliad brys".
Yn siarad 芒 大象传媒 Cymru, fe wadodd Mr Bennett ei fod yn ceisio "cipio p诺er" gan y comisiynydd.
"Rwy'n bendant wedi cael y profiad o ddelio 芒 dros 2,000 o gwynion y flwyddyn am wasanaethau cyhoeddus," meddai.
"Mae angen gwneud yn si诺r bod pobl sy'n bryderus am wasanaethau cyfrwng Cymraeg yn cael yr un hawliau 芒 phobl sy'n dod i fy swyddfa i.