Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Clwb Ifor Bach mewn trafodaethau i ymestyn ei safle
Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu eu bod mewn trafodaethau 芒 Chlwb Ifor Bach am ymestyn safle'r clwb nos, wrth i'r cyngor gwblhau'r broses o brynu safle gwag ar Stryd Womanby.
Mae Arweinydd y cyngor, Huw Thomas, wedi bod yn gweithio 芒 gr诺p Achub Stryd Womanby, gafodd ei sefydlu yn gynharach eleni, i geisio achub cerddoriaeth fyw yng nghanol y ddinas.
Fe ddaeth hynny yn dilyn pryderon y gallai datblygiadau preswyl a gwesty ar y stryd arwain at leoliadau cerddoriaeth yn cael eu gorfodi i gau oherwydd y s诺n.
Dywedodd Mr Thomas bod y cyngor yn y broses o brynu'r safle oedd yn cael ei gynnig ar gyfer y datblygiad preswyl - drws nesaf i Glwb Ifor Bach.
Roedd y datblygwr Afzal Khan wedi cynnig troi'r safle yn floc saith llawr o fflatiau, ond cafodd yr awgrym ei feirniadu'n hallt gan bobl oedd yn pryderu y gallai niweidio s卯n gerddoriaeth y ddinas.
Fe gafodd y cais hwnnw ei dynnu 'n么l ddiwedd mis Medi.
'Diogelu calon cerddoriaeth'
"Rydym hefyd wedi dechrau trafod telerau masnachol ar gyfer Clwb Ifor Bach i wneud defnydd o'r safle i alluogi'r lleoliad hwnnw i gael ei ymestyn," meddai Mr Thomas.
"Drwy ymyrryd fel hyn, rydym yn diogelu calon cerddoriaeth canol ein dinas.
"Mae Stryd Womanby yn gartref i sawl lleoliad byw sy'n creu awyrgylch a rhanbarth heb fod yn debyg i unrhyw ran arall o'r brifddinas."
Dywedodd Prif Weithredwr Clwb Ifor Bach, Guto Brychan wrth 大象传媒 Cymru Fyw bod y datblygiad diweddaraf yn "newyddion gwych".
Ychwanegodd: "Rydym wedi bod yn trafod gyda'r cyngor ers yn gynnar yn yr ymgyrch i weld sut medrid diogelu Stryd Womanby tua'r dyfodol a sicrhau parhad i'r gwasanaeth mae'r Clwb yn ei gynnig.
"Mae eu parodrwydd i edrych ar opsiynau ymarferol i ddatrys y problemau rydym wedi bod yn eu hwynebu wedi bod yn galonogol tu hwnt.
"Hoffwn ddiolch i Huw Thomas a'r cyngor am eu holl waith dros y misoedd diwethaf i sicrhau bod cerddoriaeth byw yn parhau i fod yn rhan annatod o fywyd diwylliannol Caerdydd."