大象传媒

Cynllun i ddysgu sgiliau digidol i fenywod Pen Ll欧n

  • Cyhoeddwyd
sue black
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Dr Sue Black adael yr ysgol yn 16 oed, cyn ailafael yn ei gyrfa academaidd yn ddiweddarach

Ardal Pen Ll欧n yng Ngwynedd fydd yr ardal gyntaf yng Nghymru i weithredu cynllun arloesol i gael menywod o bob oed i ddysgu am y byd digidol.

Diben elusen Techmums ydi rhoi'r sgiliau a'r hyder i fenywod sydd wedi mynd allan o'r byd gwaith, a'u galluogi i ail-afael mewn gwaith eto gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i wneud hynny boed mewn swyddfa neu yn eu cartrefi.

Dr Sue Black sydd wedi dechrau'r cynllun, ac roedd hi yng Ngholeg Meirion Dwyfor ym Mhwllheli'r wythnos hon i roi hyfforddiant i'r staff yno sut i fynd ati i gyflwyno'r cyrsiau digidol i fenywod Pen Ll欧n.

Gadawodd Dr Black yr ysgol yn 16 oed, fe briododd yn ifanc a chael tri o blant. Erbyn iddi fod yn 25, roedd mewn lloches i fenywod.

Wedyn fe wnaeth hi ailafael mewn gyrfa academaidd, ac ennill doethuriaeth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sue Black bellach yn cynnal sesiynau er mwyn hyfforddi pobl i allu dangos sgiliau digidol i eraill

'Cynyddu hyder a gallu'

Yn 2012 fe sefydlodd Techmums, sef cwrs pum wythnos i hyfforddi merched ym myd cyfrifiaduron.

Mae'r cynllun bellach wedi rhoi sgiliau i filoedd o fenywod ledled Lloegr, a nawr mae Cyngor Gwynedd wedi gofyn iddi ddechrau cynllun peilot ym Mhen Ll欧n.

Dywedodd Sioned Thomas, Rheolwr Rhaglenni Datblygu Gwledig y cyngor: "Y syniad hefo Techmums ydi ein bod ni'n canolbwyntio ar adnabod carfan o ferched, o bosib sydd wedi disgyn allan o'r farchnad lafur, a'u grymuso nhw mewn technoleg a dangos y cyfleoedd sy'n bodoli, boed yn gymdeithasol neu o fewn byd gwaith.

"Gall hynny sicrhau fod y merched yn cynyddu eu hyder a'u gallu ac yn adnabod cyfleoedd gwaith, boed gyda chwmn茂au, neu ddefnyddio technoleg i ddatblygu eu mentrau eu hunain."

Dywedodd Aled Jones-Griffith, Pennaeth Cynorthwyol Coleg Meirion Dwyfor fod y coleg wedi bod yn gwneud gwaith codio gyda phlant oedran cynradd.

"Rydan ni hefyd wedi bod yn gwneud gwaith apps hefo'r ysgolion uwchradd ac roedden ni'n meddwl fod hwn yn gam naturiol i ni r诺an i ddechrau mynd 芒'r dechnoleg allan i'r gymuned," meddai.

"Mae Pen Ll欧n yn cael ei hadnabod fel ardal ddifreintiedig ond mae 'na gymaint o doreth o dalent yma a dwi'n gobeithio y bydd y cynllun yma yn rhoi cyfle i bobol ail-afael yn yr ysgol yrfa."

'Newid bywydau'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwenan Richards, un o'r rhai gafodd ei hyfforddi gan Dr Black yn ystod y sesiwn

Un o'r rhai oedd yn cael ei hyfforddi gan Dr Black er mwyn cynnal cyrsiau i ferched Ll欧n ydi Gwenan Richards, sy'n ddarlithydd technoleg gwybodaeth yng Ngholeg Meirion Dwyfor.

"Dwi wedi dysgu gymaint mae technoleg gwybodaeth yn gallu newid bywydau unigolion," meddai Ms Richards.

"'Dan ni wedi dysgu sgiliau defnyddio'r we yn ddiogel, sut i greu apps, a sut i greu gwefan. A'r syniad ydi fod merched yn gallu defnyddio'r sgiliau yna i ddatblygu hunan hyder a hefyd er mwyn cymryd rhan yn y byd gwaith."

Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd posteri'n cael eu dosbarthu ledled Ll欧n i annog menywod i fynychu cyrsiau Techmums.