大象传媒

Mesur Brexit angen 'parchu' refferenda datganoli Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cynulliad a San Steffan

Mae angen newidiadau i fesur Brexit Llywodraeth y DU er mwyn parchu canlyniadau dau efferendwm ar ddatganoli yng Nghymru, yn ol cadeirydd pwyllgor Cynulliad.

Yn 么l David Rees mae'r mesur presennol yn rhoi "pwerau ysgubol" i weinidogion y DU dros faterion "sydd wedi eu datganoli ers 20 mlynedd".

Mae'r ddeddfwriaeth, fydd yn trosglwyddo deddfau'r UE yn 么l i'r DU, wedi cael ei disgrifio fel "ymgais i gipio p诺er" gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Dywedodd dirprwy Theresa May, Damian Green ei fod yn gobeithio y bydd trafodaethau 芒'r gweinidogion datganoledig yn golygu y bydd ACau yn cefnogi'r mesur.

'Parchu'r bobl'

Rhybuddiodd Mr Rees, cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, na fyddai ei haelodau yn argymell i ACau gymeradwyo'r mesur pe na bai'r pryderon yn cael eu lleddfu.

Mae Llywodraeth y DU yn awyddus i beidio gweld Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn cael ei wrthod ym Mae Caerdydd, gan y gallai hynny arwain at ffrae gyfansoddiadol.

Yn 么l y Pwyllgor Materion Allanol fe ddylai "fframweithiau polisi cyffredin ledled y DU" ar faterion megis amaeth, pysgota, a chymorth economaidd gael eu cytuno "rhwng llywodraethau a deddfwrfeydd y DU, ac nid cael eu gosod gan Lywodraeth y DU".

Maen nhw hefyd wedi dweud y dylai gweinidogion y DU ond allu newid deddfau gafodd eu creu ym Mrwsel os mai San Steffan sy'n gyfrifol amdanynt.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

David Rees yw cadeirydd Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad

Ond os yw pwerau yn dod i Gymru, meddai'r pwyllgor, mae angen "cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i ailysgrifennu cyfreithiau" sydd wedi dod o'r Undeb Ewropeaidd "er mwyn sicrhau gallu'r Cynulliad i graffu'n briodol arnynt".

Dywedodd David Rees: "Mae Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn rhoi pwerau ysgubol i Lywodraeth y DU mewn perthynas 芒 meysydd polisi sydd wedi'u datganoli i Gymru ers 20 mlynedd.

"Mae'n hollbwysig ein bod yn parchu'r bobl a bleidleisiodd mewn dau refferendwm dros gael Cynulliad Cenedlaethol sydd 芒'r p诺er i ddeddfu ar faterion datganoledig."

Ychwanegodd fod y pwyllgor yn "cydnabod maint yr her sydd o'n blaenau, ac rydym yn barod i chwarae ein rhan i sicrhau bod gennym gyfreithiau ymarferol wedi inni adael yr UE".