大象传媒

Dim llwyfan i opera oherwydd cantorion sydd ddim o Asia

  • Cyhoeddwyd
Hackney Empire
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd disgwyl i'r opera gael ei pherfformio ar 31 Hydref

Mae penderfyniad i ddewis cantorion sydd ddim o Asia i chwarae rhan cymeriadau Chineaidd wedi arwain lleoliad yn Llundain i ganslo opera Gymreig.

Roedd disgwyl i gynhyrchiad The Golden Dragon gan Music Theatre Wales (MTW) orffen eu taith gyda sioe yn yr Hackney Empire.

Ond mae rheolwyr yr Empire nawr wedi dweud fod yr opera yn peryglu ei enw da fel "pencampwr amrywiaeth".

Dywedodd MTW eu bod yn cydnabod "camgymeriadau" a'u bod am ddysgu o'r profiad.

'Nid bai'r perfformwyr'

"Mae cynnwys cantorion Cawcasaidd fel perfformwyr yn chwarae sawl rhan, gan gynnwys rhai oedd yn benodol yn gymeriadau Asiaidd, wedi pechu rhai pobl," meddai'r theatr mewn datganiad.

"Roedd y rhain yn gamgymeriadau gennym ni yn unig. Nid bai ein perfformwyr rhagorol yw hyn."

Mae Music Theatre Wales yn disgrifio'i hun fel "prif gwmni opera cenedlaethol cyfoes y DU, gyda'r bwriad o gyflwyno'r opera cyfoes gorau i'r cyhoedd".

Maen nhw'n disgrifio The Golden Dragon - sydd wedi'i sgwennu gan y cyfansoddwr o Hwngari Peter E枚tv枚s ac yn seiliedig ar ddrama'r Almaenwr Roland Schimmelpfennig - fel cynhyrchiad sydd yn "rhannol comedi, rhannol trasiedi".

Mae wedi'i leoli mewn bwyty Asiaidd ac yn adrodd hanes mewnfudwr anghyfreithlon o China sydd mewn ychydig o dwll.

Mae teitlau rhai o'r cymeriadau yn cynnwys "mam Chineaidd", "modryb Chineaidd", "dyn ifanc Asiaidd" a "hen ddyn Asiaidd".

Wrth ganslo'r perfformiad yn eu theatr nhw, dywedodd swyddogion Hackney Empire: "Mae'r drafodaeth ynghylch castio pobl sydd ddim o dras Asiaidd yn The Golden Dragon yn tanseilio ymrwymiad ac enw da yr Empire fel pencampwr amrywiaeth a hygyrchedd ar draws y diwydiant theatr.

"Mae'n hanfodol fod trafodaeth ar amrywiaeth o fewn y celfyddydau yn cael ei hannog gan y diwydiant theatr os yw am adlewyrchu'n bositif natur poblogaeth y DU.

"Mae hefyd yr un mor hanfodol fod y diwydiant theatr gyfan yn gwrando ar ganlyniad y drafodaeth honno."

Dywedodd y swyddogion mai MTW oedd wedi llogi'r theatr, ac nad oedden nhw wedi chwarae unrhyw r么l yn y castio.

Ychwanegodd rheolwyr y theatr y bydden nhw'n hapus gweithio 芒 MTW dros y misoedd nesaf "er mwyn gwella amrywiaeth o fewn y byd opera".

'Profiad trawsnewidiol'

Dywedodd y cwmni opera fod dewis pobl oedd ddim yn Asiaidd ar gyfer rhannau fel hyn "yn parhau i fod yn gyffredin yn y byd opera".

"Rydyn ni'n cydnabod fod hyn yn peri problem, ac yn sylwi y dylen ni fod wedi adlewyrchu fwy ar y goblygiadau ar gyfer y math o gynhyrchiad y gwnaethon ni.

"Mae gwaith Music Theatr Wales yn bendant yn heriol, ond dydyn ni erioed wedi mynd allan gyda'r bwriad o bechu.

"Mae hwn wedi bod yn brofiad trawsnewidiol i'r cwmni ac rydym yn benderfynol o ddysgu o hyn."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Pontio yn dweud y bydd yr opera yn parhau i gael ei llwyfannu yno'r wythnos nesaf

Mae'r cynhyrchiad eisoes wedi cael ei lwyfannu yn Theatr Sherman, Caerdydd ac yn Birmingham.

Bydd hefyd yn cael ei berfformio yng nghanolfan Pontio, Bangor ar 18 Hydref.

Dywedodd llefarydd ar ran Pontio y byddai'r perfformiad yn mynd yn ei flaen, ond eu bod wedi codi "pryder am yr opera yn dilyn yr adborth i'r perfformiad yn Birmingham".

Ychwanegodd eu bod wedi cytuno gyda MTW mai'r peth gorau i'w wneud fyddai "cael amser i gynllunio trafodaeth yn iawn dros y misoedd nesaf gan gynnwys ffocws ar amrywiaeth ym myd opera".

"Fe geisiwn chwarae ein rhan wrth greu a chyflwyno celfyddyd mewn modd sy'n annog goddefgarwch ac yn dathlu amrywiaeth, gan groesawu cyfleoedd hefyd i drafod pynciau anodd fel sydd wedi codi yn achos y cynhyrchiad dan sylw," meddai'r llefarydd.