大象传媒

Ateb y Galw: Carwyn Glyn

  • Cyhoeddwyd
Carwyn GlynFfynhonnell y llun, Carwyn Glyn

Yr actor Carwyn Glyn sydd yn Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Rhys ap William wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mynd gyda fy nhadcu i Barc Y Strade pan o'n i o gwmpas pedair oed a mwynhau bwrlwm y prynhawn yng nghanol y dorf. Saith mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, rwy dal i fynd i'r gemau, ond fydd unman yn debyg i'r Strade.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Oedd rhaglen Gladiators yn beth mawr ar nos Sadwrn pan o'n i'n tyfu fyny, a wy'n cofio cael soft spot am Lightning, yr un gyda gwallt hir melyn.

Ffynhonnell y llun, Gladiators
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bywydau pa fechgyn eraill gafodd eu goleuo gan y ferch 芒'r gwallt euraidd?

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Rwy'n berson emosiynol iawn felly wy'n hopeless 芒 phethe hapus a thrist. Ond yn ddiweddar, 'nes i gr茂o yn y gwaith gan bod cymeriad Linda (fy mam ar Pobol y Cwm) wedi marw.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Fi'n teithio 'n么l i'r gorllewin yn aml i weld teulu a ffrindie, ac wrth gwrs i weld y Scarlets, a ma'r car yn gallu mynd yn llawn dop o gwpanau coffi, poteli pop a phapurau losin cyn i fi fentro ei glirio.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Adre - Cwm Gwendraeth, ardal sydd yn llawn hanes a chymeriadau di-ri a phentrefi bychain sy' dal yn llawn Cymreictod. Rwy'n dwli byw yn y ddinas ond mae adre dal yn y gorllewin.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Nifer i'w rhestru, o gemau rygbi penodol i ddathliadau teulu a ffrindie, ond efallai un gwahanol oedd pan o'n i draw yng nghwrs rasio Fairyhouse tu allan i Ddulyn.

Ma' 'da fi sawl ffrind draw yn Iwerddon ac o'dd teulu un ohonyn nhw yn berchen ar geffyl oedd yn rasio yn ras fawr y Powers Gold Cup yn 2014. Dim ond pedwar oedd yn y ras fawr, dau o stabl Willie Mullins ac un o stabl Gordon Elliot, dau enw enfawr yn y byd rasio ceffyle, ac un fy ffrind o stabl Mick Winters, un bach iawn yng ngorllewin Cork yng nghanol y wlad.

Ffynhonnell y llun, Carwyn Glyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Gwyddelod, fel y Cymry, yn gwybod sut i ddathlu buddugoliaeth mewn steil!

Pawb yn dawel drwy gydol y ras tan y cornel d'wetha', pan oddan nhw gyd yn dechrau symud mlaen am y lle gorau gyda ceffyl fy ffrind o dan arweiniaeth y bonheddwr Barry Geraghty yn pingio'r cloddie ac yn tynnu bant o'r gweddill ac ennill o sawl metr.

Neis gweld y bobl bach yn maeddu'r cewri! Ath pawb yn wyllt, ac o'dd y champers a'r Guinness yn llifo dan ganu mawr tan orie man y bore. Rebel Fitz - Ceffyl Cork - Ceffyl y bobl bach!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Ffyddlon, Cefnogol, Unionsyth.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Fydden i'n gwylio ffilmiau lot mwy 'na darllen. Allen i byth weud fod yna un yn benodol, ond ffilmiau comedi fydden i'n eu mwynhau orau.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Oliver Reed. Fyddai'n bleser eistedd am oriau gyda fe dros wydryn a chael gwbod yr holl streon wrth y dyn ei hun, ar 么l darllen a chlywed gymaint am ei waith, ei fywyd a hanes ei holl driciau meddwol a sobor.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Ers sawl blwyddyn bellach, rwy wedi bod yn rhedeg syndicate rasio ceffylau, gyda'r ceffyl yn stablau'r hyfforddwr Sam Thomas yn Lambourn.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cael un parti mawr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd ffilmio'r golygfeydd olaf rhwng DJ a Linda yn emosiynol iawn i Carwyn

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Mae fy newis o gerddoriaeth mor eang mae'n anodd dewis un gan ei fod e'n newid bob hyn a hyn. Ond yr un sydd wedi cael ei chwarae mwya' ar fy playlist i yw Miami 2017 gan Billy Joel. Rwy'n hoff iawn o'i ganeuon ac wedi ei weld yn fyw ddwywaith.

Mae ganddo sioe arbennig sy'n para' bron i dair awr heb stop. Mae'n agor gyda'r g芒n yma. Eith popeth yn dywyll cyn i'r golau ddod ar y piano, yna syth mewn i'r geiriau.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Prif gwrs - stecen!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Un o chwaraewyr rygbi Cymru ar ddiwrnod g锚m rygbi rhyngwladol i brofi cerdded allan ar y cae o flaen holl dorf a s诺n y stadiwm.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Amy Wadge