Codiadau sylweddol i gyflogau is-ganghellorion
- Cyhoeddwyd
Fe all 大象传媒 Cymru ddatgelu fod sawl is-ganghellor ym mhrifysgolion Cymru wedi derbyn codiadau cyflog sylweddol.
Fe dalodd Prifysgol Aberystwyth dros 拢400,000 i ddau o bobl wneud y swydd y llynedd - cynnydd o 85% o'i gymharu 芒'r flwyddyn flaenorol.
Roedd yna gynnydd mawr hefyd o ran Prifysgol Glynd诺r yn Wrecsam am yr ail flwyddyn yn olynol o'i gymharu 芒'r hyn oedd yn cael ei dalu yn 2013.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i'r prifysgolion fod yn atebol, a bod yna dryloywder.
Cyflog
Rhwng Gorffennaf 2015 a Gorffennaf 2016 fe gafodd is-ganghellor Aberystwyth April McMahon gyflog o 拢237,000. Pan adawodd y sefydliad yng Ngorffennaf 2016 cafodd daliad ychwanegol o 拢102,000.
Fe dderbyniodd yr is-ganghellor dros dro John Grattan, 拢75,000 rhwng Chwefror a Gorffennaf 2016.
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol, sydd yn y broses o chwilio am ddiswyddiadau, fod rhan o'r gost wedi ei ysgwyddo drwy beidio 芒 phenodi aelod o'r t卯m rheoli.
Fe dalodd Prifysgol Glynd诺r Wrecsam 拢331,000 i'w his-ganghellor presennol, ac is-ganghellor dros do, dros yr un cyfnod.
Cafodd yr is-ganghellor dros dro, Graham Upton 拢270,000, a hynny drwy ddwylo asiantaeth rhwng Awst 2015 a Mawrth 2016.
Fe gafodd yr is-ganghellor presennol Dr Maria Hinfelaar, 拢61,000 rhwng Ebrill a Gorffennaf 2016.
Yn y cyfnod rhwng Gorffennaf 2014 a Gorffennaf 2015 fe wariodd Prifysgol Glynd诺r 拢490,000 ar gyflogau y cyn is-ganghellor Michael Scott, a'r is-ganghellor dros dro Graham Upton.
'Marchnad gystadleuol'
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth: "Mae r么l yr is-ganghellor wedi esblygu dros y blynyddoedd diwethaf, gan arwain ar faterion academaidd, ond hefyd i reoli cyllid o filiynau mewn maes hynod o gystadleuol o fewn y DU ac yn rhyngwladol.
"Mae cyflog is-ganghellor Aberystwyth yn gymharol neu yn is o'i gymharu 芒 sefydliadau addysg tebyg o fewn y DU.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Glynd诺r Wrecsam: "Fe wynebodd Prifysgol Wrecsam Glynd诺r gyfnod heriol yn 2014/15, oedd yn cynnwys penodi t卯m rheoli dros dro er mwyn ceisio sicrhau sefydlogrwydd ariannol.
"Oherwydd yr amgylchiadau anarferol, roedd yna gostau tymor byr anarferol, ond mae'r brifysgol nawr mewn safle llawer cryfach, gydag is-ganghellor parhaol, dirprwy is-ganghellor a th卯m rheoli," meddai'r llefarydd.
'Amgylchiadau hanesyddol'
"Mae cyflog yr is-ganghellor yn y chwarter isaf o ran y DU ac yn gyffredinol, fe fydd y gost o gyflogi'r t卯m rheoli wedi gostwng bron 25% ar 么l y flwyddyn ariannol 2016/17.
Dros yr un cyfnod, fe gafodd is-ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yr Athro Tony Chapman, becyn gwerth 拢276,000, cynnydd o 15% o'i gymharu 芒'r flwyddyn flaenorol.
Roedd hwn yn cynnwys 拢29,000 o arian yn absenoldeb gwyliau blynyddol a gafodd ei dalu ar ei ymddeoliad.
Dywedodd llefarydd: "Dyw'r brifysgol ddim am wneud unrhyw sylw, dim ond i ddweud fod y data a'r amgylchiadau yn rhai unigryw a hanesyddol."
Yn yr un cyfnod, fe dderbyniodd yr Athro John Hughes is ganghellor prifysgol Bangor 拢245,000 - cynnydd o 7.5%.
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol, sydd yn y broses o waredu 60 o swyddi, mai hwn oedd y cynnydd cyntaf iddo dderbyn gan y pwyllgor taliadau ers ei benodiad yn 2010.
"Mae ei gyflog o dan gyfartaledd y DU o ran y sector, ac mae'n cydnabod yr hyn lwyddodd y brifysgol i'w gyflawni yn nhermau dysgu, gwerthfawrogiad myfyrwyr a gwaith ymchwil.
"Mae prifysgolion Cymru'n gweithredu o fewn marchnad ryngwladol a mewnol o ran y DU sy'n hynod gystadleuol o ran recriwtio myfyrwyr a staff.
Dywed undeb y prifysgolion a cholegau mai'r pwyllgorau sy'n penodi cyflogau sydd ar fai ac maen nhw'n galw am fwy o dryloywder.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Gyda threthdalwyr a myfyrwyr yn gwneud cyfraniad sylweddol i incwm y sefydliadau hyn, rydym yn disgwyl iddynt fod yn atebol a bod yna dryloywder wrth ddefnyddio eu cyllidebau.
"Mae'r ysgrifennydd addysg wedi ei gwneud hi yn glir i brifysgolion fod yn rhaid dangos pwyll wrth drafod t芒l rheolwyr ac y dylid hefyd rhoi ffocws ar y rhai sydd ar gyflogau is. "