大象传媒

Gwasanaethau plant Powys: 'Pryderon wedi'u codi llynedd'

  • Cyhoeddwyd
Powys
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Jeremy Patterson fod pryderon wedi eu codi yn 2016

Mae prif weithredwr Cyngor Powys wedi dweud wrth gynghorwyr fod pryderon wedi eu codi gyntaf am wasanaethau plant yr awdurdod flwyddyn yn 么l.

Dywedodd Jeremy Patterson bod pryderon wedi cael eu codi am wasanaethau oedolion y cyngor yn haf 2016, a bod problemau pellach am wasanaethau plant wedi cael eu codi yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Ond mae AS Sir Drefaldwyn yn dweud iddo wneud y cyngor yn ymwybodol o bryderon am y gwasanaethau "tua dwy flynedd yn 么l".

Mae cabinet y cyngor wedi dweud eu bod "wedi ymrwymo'n llwyr" i amddiffyn plant wrth i gynghorwyr drafod yr adroddiad damniol i'w methiannau.

Mae cynghorwyr yn trafod cynllun drafft ar sut i amddiffyn plant yn sgil yr adroddiad, ddaeth i'r casgliad fod plant "mewn perygl o niwed" o ganlyniad i fethiannau'r awdurdod.

'Pryderon difrifol'

Dywedodd Mr Patterson bod "pryderon difrifol wedi dod i'r amlwg" am wasanaethau plant ym mis Chwefror a Mawrth eleni.

Fe wnaeth pennaeth yr adran gymryd saib o'r gwaith o ganlyniad i hynny, cyn gadael yr awdurdod yn llwyr ym mis Ebrill.

O ganlyniad, dywedodd Mr Patterson bod y cyngor wedi rhoi mesurau mewn lle i wella'r sefyllfa a'u bod wedi rhoi gwybod i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).

Dywedodd arweinydd y cyngor, Rosemarie Harris, wrth y cyfarfod ei bod yn derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad

"Mae'n ddrwg iawn gennyf fod hyn wedi digwydd, ac mor gynnar yn y cabinet newydd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Powys
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Rosemarie Harris ei bod yn derbyn argymhellion yr adroddiad

Ond dywedodd nad oedd aelodau'r cabinet wedi bod yn ymwybodol o unrhyw broblemau o fewn yr adran, a'u bod wedi cael gwybod bod "popeth yn gweithio'n iawn".

Cadarnhaodd hefyd bod y cyngor wedi gofyn i gyn-brif weithredwr Cyngor Abertawe, Jack Straw, i oruchwylio'r gwelliannau i'r adran, a bod bwrdd gwelliannau wedi ei sefydlu yng nghyfarfod cyntaf y cabinet.

Ond mae cynghorwyr wedi codi pryderon am bwy oedd yn gwybod am y pryderon, a phryd.

Dim ond ers mis Mai mae Ms Harris yn arwain y cyngor, ond dywedodd Mr Patterson ei fod wedi gwneud y cyn-arweinydd a chyn-aelod gwasanaethau plant y cabinet yn ymwybodol o'r pryderon ym mis Hydref a Thachwedd y llynedd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cyngor llawn yn cwrdd am y tro cyntaf ers i'r adroddiad gael ei gyhoeddi

Dywedodd aelod seneddol Sir Drefaldwyn, Glyn Davies, wrth 大象传媒 Radio Wales fore Iau ei fod hefyd yn ymwybodol o bryderon am yr adran ers peth amser.

Ychwanegodd ei fod wedi cymryd yn ganiataol y byddai newidiadau wedi cael eu gwneud wedi iddo gwrdd 芒'r awdurdod, ond bod yr adroddiad yn ei gwneud yn amlwg na gafodd hynny ei wneud.

Dywedodd ei fod wedi bod yn ymwybodol o'r sefyllfa ers i un o'i etholwyr fynegi pryder am ddiogelwch plentyn "tua dwy flynedd yn 么l".

Pan gododd y mater gyda'r cyngor, dywedodd bod eu hymateb yn "siomedig iawn" a bod "diffyg cydnabyddiaeth llwyr o ddifrifoldeb yr achos".

Cwrdd 芒'r heddlu

Mae Mr Patterson wedi cadarnhau hefyd bod yr awdurdod yn siarad 芒'r heddlu yngl欧n 芒 honiadau fod data wedi ei addasu.

Mae uwch swyddogion y cyngor yn cyfarfod 芒'r heddlu ddydd Iau i drafod y sefyllfa.

Ond dywedodd Mr Patterson na fydd Heddlu Dyfed Powys yn cynnal ymchwiliad.

"Ni fydd yr heddlu yn rhan o'r broses ar hyn o bryd. Dyw hwn ddim yn fater i'r heddlu," meddai wrth y cyfarfod.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Rebecca Evans wedi rhybuddio'r cyngor bod y llywodraeth yn barod i ymyrryd os oes angen

Roedd adroddiad gan arolygwyr AGGCC yn dweud fod "diffyg cynllunio ar gyfer asesu, gofal a chymorth" yng ngwasanaethau'r sir.

Roedd "dull anghyson o weithio" yn unol 芒 chanllawiau sy'n diogelu plant rhag ecsbloetio rhywiol yn golygu bod "plant mewn perygl o niwed", meddai'r adroddiad.

Mae'r cyngor wedi ymddiheuro ac mae ganddo 90 diwrnod i wella neu wynebu cael eu cymryd drosodd gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans wedi rhybuddio'r cyngor bod y llywodraeth yn barod i ymyrryd os oes angen.