Oedi i gynllun ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae'n ymddangos y bydd oedi pellach ar y gwaith o adeiladu ffordd osgoi chwe milltir (9.8km) rhwng Bontnewydd a Chaernarfon.
Roedd y gwaith i fod i ddechrau yn yr hydref a chael ei gwblhau ddiwedd 2019, ond mae'n ymddangos bellach na fydd hynny'n digwydd tan y flwyddyn newydd.
Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ei gynnal ym mis Mehefin, a dywedodd Llywodraeth Cymru wrth raglen y Post Cyntaf 大象传媒 Radio Cymru eu bod bellach wedi derbyn adroddiad yr archwilydd.
Ychwanegodd y llefarydd y byddai gweinidogion yn "ystyried y canfyddiadau a'r argymhellion yn ofalus cyn gwneud penderfyniad terfynol ar y cynllun".
Mae hi bron yn 10 mlynedd ers dechrau trafod adeiladu ffordd osgoi o gwmpas Caernarfon a Bontnewydd.
Yn y cyfamser mae trigolion pentrefi Saron a Llanfaglan ar ben eu tennyn, gan fod gyrwyr yn defnyddio'r ffordd drwy'r ardal er mwyn osgoi pentref Bontnewydd ar yr adegau prysur.
"Mae'r traffig sy'n mynd heibio yn y bore neu ar ddiwedd y dydd yn mynd ar sb卯d gwirioneddol o hurt," meddai Lynn Roberts.
"Y perygl ydy na wnaiff dim byd ddigwydd i sortio fo allan tan fod 'na ddamwain difrifol yn digwydd i blentyn neu oedolyn."
Dywedodd Ifor Williams, sydd yn gynghorydd cymuned dros Lanfaglan, fod rhai gyrwyr yn "hollol anghyfrifol" wrth yrru drwy'r pentref ar wib.
"Mae hyn yn broblem sydd 'di bod efo ni ers dros 20 mlynedd," meddai.
Ychwanegodd y cynghorydd Aeron Jones, sy'n cynrychioli'r ardal ar Gyngor Gwynedd: "Mae cae chwarae dros ffordd i'r l么n... a phan mae [plant] yn dod adra o'r ysgol ac eisiau mynd i'r cae chwarae mae 'na lot o draffig yma.
"Felly mae'n bryder i fi fel cynghorydd, i bobl leol, a 'dan ni yma flwyddyn ar 么l blwyddyn yn deud yr un peth."
Symud ymlaen
Yn gynharach eleni roedd ymchwiliad cyhoeddus i gynllun y ffordd osgoi o gylchfan Llanwnda i gylchfan Plas Menai.
Byddai hynny'n osgoi Dinas, Bontnewydd a Chaernarfon, ac yn 么l y cynghorydd Peter Garlick, sy'n cynrychioli Bontnewydd a Llanfaglan, mae pobl yr ardal wedi blino aros am benderfyniad.
"'Dan ni'n awyddus iawn i wybod fel cymuned beth ydy canlyniadau'r archwiliad, a'r ffordd i symud ymlaen efo'r ffordd osgoi," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai dydd Mercher y cawson nhw adroddiad yr arolygydd, ac y bydd y gweinidogion yn ystyried yr argymhellion yn ofalus cyn gwneud penderfyniad terfynol rywbryd yn ystod y gaeaf.