Labeli recordio yn cydweithio i 'gryfhau'r sin' Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o labeli recordio amlycaf Cymru wedi cytuno i ddechrau cydweithio mewn ymgais i "gryfhau" ac i "broffesiynoli" y sin gerddoriaeth Gymraeg.
Mae cwmn茂au Sain a Turnstile wedi cadarnhau eu bod wedi cydweithio'n agos dros y misoedd diwethaf ar gynlluniau i ddatblygu'r byd recordio a chyhoeddi Cymraeg.
Gobaith y cwmn茂au yw gallu cynnig ystod eang o wasanaethau er mwyn "cryfhau" a datblygu labeli annibynnol yng Nghymru.
Darganfod mwy o artistiaid
Eglurodd Alun Llwyd o gwmni Turnstile, fod y datblygiad yn dilyn trafodaethau gyda nifer o labeli, a bod y cydweithio yn mynd i allu cynnig amryw o wasanaethau a chefnogaeth ymarferol i'r cwmn茂au allu tyfu.
Yn y pen draw y gobaith yw arwain at ryddhau mwy o recordiau a darganfod a hyrwyddo mwy o artistiaid.
Ymysg yr ystod o wasanaethau fydd yn cael eu rhannu, bydd:
System ddosbarthu fyd-eang;
Cymorth marchnata;
Cyngor cynllunio ymgyrchoedd;
Cynnig asiantaeth cyngherddau a hyrwyddo ar-lein.
Mae'r cwmn茂au hefyd wedi cadarnhau y bydd rhagor o ddatblygiadau yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol.
Fe fydd y gwasanaeth labeli yn cael ei sefydlu a'i redeg o swyddfeydd y cwmn茂au yn Llandwrog a Chaerdydd.
Mae Turnstile yn gwmni sy'n cynrychioli artistiaid gan gynnwys Charlotte Church, Gruff Rhys, Cate le Bon a Gwenno Saunders.
Cafodd label Sain ei sefydlu yng Nghaerdydd yn 1969, ac fe symudodd y cwmni i stiwdios newydd yn Llandwrog ger Caernarfon yn 1971.
Mae gan y cwmni 么l-gatalog sy'n cynnwys rhai o enwau mwyaf y byd adloniant Cymraeg gan gynnwys Syr Bryn Terfel, Edward H Dafis, Geraint Jarman a Meic Stevens, i enwau mwy newydd y sin fel Yr Ods a S诺nami.
'Cryfhau a gwarchod annibyniaeth'
Mewn datganiad, dywedodd y cwmn茂au: "Rydym ar hyn o bryd yn byw mewn cyfnod lle mae toreth gyfoethog o artistiaid talentog yn ysgrifennu, recordio a pherfformio yn y Gymraeg a chyfnod hefyd lle mae mwy nac erioed o labeli annibynnol yn gweithio a rhyddhau recordiau Cymraeg.
"Pwrpas y gwasanaethau labeli yma fydd cynnig ystod o wahanol wasanaethau a fydd yn cryfhau'r labeli hynny gyda'i gwaith yng Nghymru a thu hwnt.
"Y nod yw y bydd y datblygiad hwn yn gam mawr ymlaen mewn creu strwythur cefnogol hirdymor fydd yn cryfhau a gwarchod annibyniaeth labeli."
Mae rhai o labeli annibynnol Cymru wedi rhoi eu cefnogaeth i'r cynllun.
Mae'r canwr Ywain Gwynedd, sy'n rhedeg label Cosh, wedi dweud bod y datblygiad yn "un cyffrous i'r diwydiant cerddorol yng Nghymru gan ei fod yn uno profiad a dealltwriaeth Turnstile gydag adnoddau Sain".
Ychwanegodd: "Da ni 'di bod yn d'eud ers cyfnod rhy hir bod angen proffesiynoli'r sin, ac mae hwn yn gam enfawr i'r cyfeiriad yna."
Dywedodd Gwion Schiavone, sylfaenydd Recordiau I Ka Ching, y byddai'n "edrych ar gyfleoedd i ddatblygu fel label yn ogystal 芒 datblygu ein hartistiaid" gyda chymorth y gwasanaeth.
Mae Gruff Owen o Recordiau Libertino wedi dweud fod y cyhoeddiad wedi dod ar "amser perffaith" i gefnogi artistiaid i "dyfu, ffynnu ac i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg".
Senglau Sain
Rhan arall o'r cynllun yw ail-ryddhau rhai o ganeuon cyfres Senglau Sain o'r 80au, sy'n cynnwys cerddoriaeth artistiaid mor amrywiol 芒 Bando a Rhiannon Tomos a'r Band.
O fis Rhagfyr eleni, mae Sain wedi cadarnhau y bydd rhai o'r senglau yn cael eu hatgyfodi gan ddefnyddio'r un gwaith celf eiconig, ond y tro hwn yn rhyddhau traciau unigol gan artistiaid newydd yn ddigidol.
Bob mis bydd artistiaid newydd yn ymweld 芒 Stiwdio Sain i recordio trac a saethu fideo gyda'r gwaith yn cael ei ryddhau ar y dydd Gwener gyntaf o bob mis. Bydd yr holl senglau yn cael eu rhyddhau mewn casgliad 12 trac ar ddiwedd y flwyddyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd22 Medi 2015
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2012