大象传媒

Bwci bos Cymru

  • Cyhoeddwyd
eeFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Oes 'na rywun yna?

Bw! Mae heno'n Noson Calan Gaeaf, yr adeg hon o'r flwyddyn pan fydd ysbrydion ac ellyllon yn crwydro'r strydoedd...

Plant yn casglu arian a losin fydd y rhan fwyaf o'r rhain... ond wyddoch chi fod rhai o bobl Cymru yn credu eu bod wedi gweld ysbrydion go iawn?

Mae Si芒n a Huw Thomas yn byw mewn hen ffermdy yng ngogledd Caerdydd a mae'r ddau wedi cael profiadau iasol iawn. Meddai Si芒n:

"Mae Huw wedi taeru fod e wedi gweld pobl yn yr ystafell wely. Merch ifanc 芒 ringlets oedd un, yna hen wraig a rhyw fath o berson yn edrych fel gwas ffarm hefyd.

"Nawr dim ond fe sydd wedi gweld hyn, neb arall, Ond rwy wedi cael y profiad o wynto dyn, chwyslyd, fel gweithiwr fferm. Rwy wedi gwynto hwnna sawl gwaith, dim yn ddiweddar, a mae fy merch wedi ei wynto fe hefyd, a phob tro yn yr un man yn y t欧.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cartref Si芒n a Huw Thomas... a rhywrai eraill?

"Mae e reit ble roedd y wal allanol yn arfer bod. Ond dim ond ni'n dwy sydd wedi gwynto hwn... wel ar wah芒n i'r amser pryd fuodd saer coed yn gweithio yn y t欧 unwaith sawl blwyddyn yn 么l.

"Gofynnodd e i fi un diwrnod, "Have you got a ghost here?" Roedd e wedi bod yn gweithio ym mhlasdy Llancaiach Fawr, lle mae nifer fawr o straeon gwahanol am ysbrydion yn bodoli, ac roedd e wedi cael profiad yn y fan hynny. Wnaeth ddweud wrtha'i fod e wedi synhwyro presenoldeb tebyg yma.

"Ond mae'n rhaid i mi ddweud fod y digwyddiadau ddim wedi'n effeithio ni mewn unrhyw ffordd. Does dim teimlad o fygythiad o gwbl, dim ond presenoldeb, a hynny'n un achlysurol iawn."

Llofruddiaeth baban

Ac mae Huw a Si芒n wedi cael tipyn o agoriad llygad yn ddiweddar, meddai Si芒n:

"Yn ddiweddar cafodd llyfr Cardiff - Those Cruel and Savage Streets ei gyhoeddi. Mae e'n olrhain rhai o achosion heddlu mwyaf erchyll yr oes Fictorianaidd. Mae 'na hanesyn yn y llyfr sy'n awgrymu bod ein t欧 ni yn gysylltiedig 芒 llofruddiaeth baban bach gan forwyn oedd yn arfer byw yma.

"Mae'n debyg iddi roi genedigaeth i faban yn gyfrinachol mewn t欧 bach yn un o'r adeiladau tu cefn i'r t欧 ffarm, ond roedd cymaint o ofn arni hi y byddai'n colli ei swydd oherwydd ei bod hi'n ddi-briod, wnaeth hi ladd y baban, lapio'r corff mewn rhyw fath o sach a'i roi fe mewn storws.

"Cafodd y ferch ei dedfrydu i farwolaeth, ond chafodd hi mo'i chrogi oherwydd cyflwr ei meddwl.

"Ond 'dyw hyn ddim wedi newid ein hagwedd tuag at y t欧 o gwbl, a 'dyn ni ni wedi bod yn byw yma am 35 mlynedd, felly go brin fydd yn gwneud unrhyw wahaniaeth erbyn hyn."

Y dychymyg yn chware triciau?

Mae Towyn Jones wedi treulio ei fywyd yn casglu hen straeon ysbryd ac ofergoelion ac erbyn hyn mae ganddo gasgliad eithaf helaeth sy'n gwneud i chi amau'r s诺n gwichian 'na sy'n dod o gyfeiriad y llofft.

"Un peth rwy wedi ei weld sy'n gyffredin ym mhob stori ysbryd yw r么l y dychymyg. Mae'r straeon ysbryd gorau i gyd yn hollol ddibynnol ar chwarae ar ofnau mewnol, cyn-oesol pobl a prin byth yn dibynnu ar waed a trais.

"Rwy'n sicr bod gwraidd cymdeithasol i nifer o straeon hefyd. Er enghraifft, yng Nghymru a Lloegr, mae bron pob plasdy gyda stori ysbryd ynghlwm ag e.

Disgrifiad,

Stori iasol ar gyfer Calan Gaeaf gan Towyn Jones

"Un ffenomena sydd yn gyffredin yw ysbryd, tebyg i ryw fath o ffigwr Ladi Wen, sydd yn troedio ffiniau'r st芒d, fel arfer ger rhyw lodge sydd yn amddiffyn un o brif fynedfeydd y plasdy.

"Rwy wedi bod yn sgwrsio gydag arbenigwr ll锚n gwerin yn yr Alban a dyw'r ffenomenom yma ddim yn bodoli yn y fan honno. Ei esboniad ef yw bod r么l y laird yn yr Alban yn wahanol i r么l y sgweiar yng Nghymru.

"Yn yr Alban, mae'r laird yn cael ei weld fel ffigwr tadol a'r plasdy yw calon y gymdeithas. Mae'r pwyslais felly ar groesawu pobl yn hytrach na chreu pellter.

"Efallai dyna pam mai straeon Ladi Wenaidd sy'n bodoli yma. Yn rhannol, gweithwyr y st芒d yn creu rheswm am y pellter, ac efallai'r sgweiar yn creu stori i gadw pobl draw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun diniwed o'r ci yn gorwedd o flaen y t芒n... ond welwch chi'r ferch fach yn syllu?

Y ferch yn y t芒n

"Mae straeon ysbryd ac arallfydol yn frith yn ein ll锚n gwerin ni, ac yn eithaf pwerus hefyd.

"Roedd cyfaill i mi, ac ofn dim arno. Roedd e'n ddigon hapus i gerdded strydoedd dinasoedd dros y byd ar unrhyw adeg o'r nos. Ond pan oedd yn mynd adre i'w ardal enedigol, roedd arno lond bol o ofn cerdded yn y tywyllwch oherwydd bod ei dad wedi bod yn adrodd straeon am y 'cannwyll corff', sef y golau chwedlonol oedd yn ymddangos tu allan i'ch t欧 ar noson eich marwolaeth, iddo pan yn blentyn."

Ac i orffen, stori fach ychydig yn agosach at adre. Rhai blynyddoedd yn 么l, tynnodd aelod o deulu un o d卯m Cymru Fyw lun o'r ci yn gorwedd o flaen y t芒n.

Dim ond ar 么l edrych yn ofalus ar y llun, gwelodd hi'r ferch fach yn syllu o'r fflamau...

Ysbryd? Bwci bo? Neu tric y goleuni?