大象传媒

Cyhoeddi manylion cyllideb Llywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
MoneyFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae manylion cyllideb Llywodraeth Cymru wedi cael eu cyhoeddi, ac yn dangos cynnydd o 拢227m i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn 2018-19, gan ddod 芒 chyfanswm gwariant ar iechyd i 拢6.85bn.

Mae'r dogfennau hefyd yn awgrymu pa doriadau fydd yn cael eu gwneud er mwyn talu am y cynnydd, gan gynnwys gostyngiad o 拢14.1m yn y grant i wella ysgolion yn 2018-19, a lleihad o 拢3m yn y grant blynyddol i Gyfoeth Naturiol Cymru.

Bydd costau staffio Llywodraeth Cymru hefyd yn cael ei gwtogi o 拢199m i 拢193m dros y flwyddyn ariannol nesaf.

Yn y flwyddyn ganlynol - 2019-20 - bydd addysg 么l-16 oed yn wynebu toriad o bron 拢10m.

Benthyciadau

Bydd rhaid i drethdalwyr ddod o hyd i fwy na 拢24m dros dair blynedd i ad-dalu'r arian sy'n cael ei fenthyg ar gyfer cynlluniau sy'n cynnwys ffordd liniaru'r M4 ger Casnewydd.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi clustnodi'r arian ad-dalu yn ei chynlluniau yn y gyllideb ddrafft.

Gyda phwerau newydd, gall gweinidogion Cymru fenthyg 拢125m yn 2018, a 拢150 bob blwyddyn ar 么l hynny hyd at gyfanswm o 拢1bn.

Yn 么l dogfennau'r gyllideb, mae cynllun yr M4, sydd ar hyn o bryd yn destun ymchwiliad cyhoeddus, yn un allai elwa o fenthyciad.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Darlun o sut gallai'r M4 edrych ger Casnewydd

Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu benthyg 拢375m allan o 拢425m posib o gyllid cyfalaf dros y tair blynedd nesaf, ond dywedodd swyddogion y bydd y swm sydd angen i'r llywodraeth ei fenthyg yn cael ei adolygu'n gyson.

Fe fydd yr arian i ad-dalu'r benthyciad yn dod o'r gyllideb refeniw sy'n talu am gostau dydd-i-ddydd o redeg gwasanaethau cyhoeddus.

Gobaith y llywodraeth yw ad-dalu'r cyfalaf dros gyfnod o 30 mlynedd, gan ddechrau gyda 拢0.6m yn 2018-19 ac yn codi i 拢6.9m erbyn 2020-21.

O gynnwys llog, bydd y ffigwr erbyn 2020-21 yn 拢13.7m.

Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd y p诺er i fenthyg hyd at 拢500m ar gyfer gwariant o ddydd-i-ddydd os fydd derbyniadau treth yn is na'r disgwyl, ond does dim cynlluniau gan weinidogion fanteisio ar y p诺er yma.

Cefnogaeth i'r digartref

Mae pryderon y bydd cefnogaeth ariannol i bobl fregus gyda'u cartrefi yn cael ei dorri hefyd, er gwaetha' addewidion i warchod yr arian.

Ni fydd cynllun Cefnogi Pobl - gwerth 拢125m - yn cael ei glustnodi yng nghyllideb Llywodraeth Cymru yn 2019-20.

Bydd yr arian yn cael ei gyfuno gyda chronfeydd eraill, gan roi mwy o ryddid i gynghorau benderfynu sut i'w wario.

Ond mae ymgyrchwyr yn dweud y bydd hynny'n ei gwneud yn fwy anodd i ddal y llywodraeth i gyfrif.

Mae'r cynllun yn talu am bethau fel hostelau a gweithwyr cefnogaeth i bobl fregus, gan gynnwys y rhai sydd wedi diodde' trais yn y cartref neu'r rhai sy'n diodde' salwch cronig.

Yn gynharach yn y mis, dywedodd gweinidogion na fyddai toriadau i'r grantiau fel rhan o gytundeb dwy flynedd gyda Phlaid Cymru.

Mae dogfennau a gyhoeddwyd ddydd Mawrth yn dangos y bydd yr un swm - 拢124.5m - wedi ei gynnwys yn y gyllideb, ond ni fydd bellach yn cael ei warchod i'r pwrpas.

Dywedodd Katie Dalton, cyfarwyddwr Cymorth Cymru sy'n cynrychioli gwasanaethau i'r digartref, ei bod yn "gandryll".

"Rydym yn bryderus iawn bod yr arian yma, sy'n canolbwyntio'n benodol ar ddigartrefedd a chefnogaeth yn ymwneud 芒 chartrefi, wedi cael ei uno gyda sawl cynllun arall sydd ddim yn ymwneud ag atal digartrefedd," meddai.

"Mae'r penderfyniad yn rhyfedd a pheryglus mewn cyfnod lle mae ystadegau Llywodraeth Cymru a'r trydydd sector yn dangos bod digartrefedd ar gynnydd ar draws Cymru."