大象传媒

Pryderon am gamddefnyddio cyffuriau yng Nghastell-nedd

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf fysiau
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae trigolion Castell-nedd yn dweud bod pryderon am bobl yn camddefnyddio cyffuriau yn ardal yr orsaf fysiau

Mae pryderon yng Nghastell-nedd bod camddefnydd cyffuriau ar gynnydd yn yr ardal.

Yn 么l y ffigyrau diweddaraf, Castell-nedd Port Talbot yw'r awdurdod lleol yng Nghymru 芒'r ganran uchaf o bobl yn marw ar 么l camddefnyddio cyffuriau.

Dywedodd un o drigolion y dref bod y broblem yn un amlwg yng Ngerddi Fictoria a ger yr orsaf fysiau.

Gan annog y cyhoeddi i gysylltu 芒 nhw os oes problemau, dywedodd heddwas lleol bod y ffigyrau yn ei "synnu."

Yn 么l y Swyddfa Ystadegau Gwladol, bu farw 46 o bobl yn yr ardal ar 么l cymryd cyffuriau rhwng 2014 a 2016.

Mae hynny gyfystyr 芒 12 ym mhob 100,000 - ffigwr sy'n uwch nag Abertawe, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd. Dim ond Blackpool allan o holl awdurdodau lleol Cymru a Lloegr sydd 芒 chyfradd uwch.

Pobl 'hollol anymwybodol'

Wrth siarad 芒 Newyddion 9, dywedodd un sy'n byw'n lleol ei bod wedi gweld pobl yn ddiymadferth ar y stryd.

"Yn y mynediad sy'n mynd mewn i'r farchnad, roedd 'na gwpl," meddai Joanna Porter.

"Mewn oed - 30 i 40 oed - ac wedi gwisgo'n neis, ond ro'n nhw'n gorwedd ar y llawr, yn hollol mas o'u hunain, yn hollol anymwybodol."

Dywedodd Ms Porter bod y broblem yn amlwg yng Ngerddi Fictoria yn y dre' ac yn yr orsaf fysiau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu Joanna Porter o Gastell-nedd yn siarad 芒 gohebydd 大象传媒 Cymru, Rhys Williams

Mae'r 大象传媒 wedi clywed gan nifer o fusnesau yng nghanol Castell-nedd sy'n dweud eu bod yn gweld pobl o dan ddylanwad cyffuriau yn ddyddiol.

Gan nodi nad oedd wedi gweld ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ei hun, fe ddywedodd heddwas lleol o Heddlu De Cymru bod yr ystadegau yn ei "synnu".

"Mae pob marwolaeth trwy ddefnyddio cyffuriau yn un [yn] ormod, mae'n drasiedi," meddai'r Sarjant Tim Burrell.

Ychwanegodd: "Ni'n mynd mas i bob galwad fel 'na, ac os ma' pobl Castell-nedd yn poeni am y pethe' sy'n mynd 'mlaen yng nghanol y dref - rho alwad i ni.

"'Na'r peth pwysig i ni - ni eisiau gwybod be' sy'n mynd 'mlaen yn y dref."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Sarjant Tim Burrell yn annog trigolion i gysylltu 芒'r heddlu os oes problemau

Yn 么l Cyngor Castell-nedd Port Talbot, maen nhw'n cydweithio'n agos gyda'r heddlu i fynd i'r afael 芒 chamddefnyddio cyffuriau yn y dre.

Maen nhw'n annog unrhyw un sy'n gweld unrhyw beth o'i le i gysylltu 芒'r heddlu yn syth.