大象传媒

'Dim digon yn s么n am droseddau casineb'

  • Cyhoeddwyd
Ch Insp Joe Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y prif arolygydd Joe Jones yn dweud bod Heddlu'r De yn gweithio'n galed i symud y rhwystrau sy'n atal pobl rhag s么n am drosedd casineb

Does yna ddim digon o bobl yn adrodd am "achosion o drosedd casineb", medd Heddlu'r De.

Mae ffigyrau swyddogol a gyhoeddwyd fis diwethaf yn dangos fod achosion o drosedd casineb ar draws Cymru a Lloegr wedi codi 29% yn 2016-7.

Yn 么l adroddiad gan y Swyddfa Gartref roedd y cynnydd mwyaf o achosion yn ymwneud ag anabledd a throseddau casineb trawsrywiol - ac mae'n debyg mai gwelliant mewn cofnodi troseddau o'r fath oedd yn gyfrifol am y cynnydd.

Troseddau casineb yn uwch adeg y refferendwm

Mae Heddlu'r De yn dweud ei bod yn fwy pwysig nag erioed i "gymunedau adrodd ar faterion y maent yn dioddef yn eu sgil".

Mae trosedd casineb yn drosedd sy'n cael ei chyflawni yn erbyn pobl neu eiddo ac yn cynnwys materion yn ymwneud ag anabledd, ethnigrwydd a chyfeiriadedd rhywiol.

Nododd adroddiad y Swyddfa Gartref bod cynnydd wedi bod mewn troseddau casineb adeg refferendwm yr UE ac yn ystod y cyfnodau wedi'r ymosodiadau ar Bont Westminster, Arena Manceinion a Phont Llundain.

Mae Heddlu De Cymru yn chwilio am ffyrdd newydd i gysylltu 芒 chymunedau a'i gwneud yn haws iddynt adrodd ar achosion o droseddau casineb.

Yn 么l Joe Jones, prif arolygydd Heddlu'r De: "Yn hanesyddol mae 'na rwystrau sy'n atal pobl o gymunedau lleiafrifol rhag ymddiried a chael ffydd yn yr heddlu wrth adrodd ar faterion.

"Wrth i ni gael llai o adnoddau mae'n rhaid i ni fod yn fwy ymwybodol o lle mae'r problemau ac mae angen i gymunedau s么n wrthym am faterion sy'n achosi loes iddynt."

Troseddau casineb yng Nghymru a Lloegr 2016-7

  • 78% (62,685) yn droseddau casineb yn ymwneud 芒 hil;

  • 11% (9,157) yn ymwneud 芒 chyfeiriadedd rhywiol;

  • 7% (5,949) yn gysylltiedig 芒 chrefydd;

  • 7% (5,558) yn gysylltiedig ag anabledd;

  • 2% (1,248) yn ymwneud 芒 thrawsrywedd.

Yn 么l Amal Beyrouty, o'r elusen Women Connect First yng Nghaerdydd mae rhai dioddefwyr yn aml "ddim yn barod" i gofnodi trosedd am eu bod yn "credu na fydd eu llais yn cael ei glywed a chwaith ddim yn bwysig".

"I ddechrau mae'r rhwystr iaith - mae rhai yn teimlo na allant fynegi eu hunain yn glir i'r heddlu a hefyd mae'r rhwystr diwylliannol wrth i rai ofni y byddant yn cael cerydd gan eu teuluoedd am s么n am bethau."

'Yn flin ac yn ofnus'

Bedair blynedd yn 么l symudodd Aziza (nid ei henw iawn) o'r Aifft i Gymru.

Mae'n dweud bod hi a'i merch 18 oed wedi dioddef cam drin geiriol a chorfforol yn gyson gan gynnwys rhywun yn ceisio symud ei hijab.

"Ro'n i'n flin," dywedodd, "ond roeddwn i hefyd yn ofnus.

"Mae fy merch yn dweud nad yw'n hoff o'r ardal ac nad yw hi am fyw yma."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Heddlu'r De yn cynnal cystadleuaeth coginio rhwng swyddogion a chymuned o ferched lleol yng Nghaerdydd er mwyn ennill ymddiriedaeth y gymuned

Mae Heddlu'r De yn galw ar ddioddefwyr troseddau casineb i ddod atynt gan fynnu y bydd pawb yn cael cydymdeimlad a pharch gan blismyn.

Er mwyn ennill ymddiriedaeth maent wedi sefydlu cystadleuaeth goginio rhwng swyddogion yr heddlu a merched lleol o dras ethnig yng Nghaerdydd.

Dywedodd y prif arolygydd Jones: "Mae hon yn un ymgais i geisio cael gwared ar y rhwystrau sy'n atal s么n am droseddau casineb ac felly ry'n yn ceisio hwyluso y ffyrdd o ddod at yr heddlu a chynyddu hyder pobl fel eu bod yn gallu dweud wrthym be sy'n digwydd."