Arwerthiant er cof am James Corfield yn codi 拢30,000
- Cyhoeddwyd
Mae arwerthiant er cof am ddyn 19 oed a fu farw ar 么l mynd ar goll tra'n ymweld 芒'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd wedi codi 拢30,000 ar gyfer t卯m achub mynydd lleol.
Bu'r gwasanaethau brys yn chwlio am James Corfield o Drefaldwyn ar 么l iddo adael tafarn yn Llanfair-ym-Muallt yn oriau man dydd Mawrth, 25 Gorffennaf.
Yn ogystal 芒'r gwasanaethau brys bu T卯m Achub Mynydd Aberhonddu, aelodau o fudiad y Ffermwyr Ifanc ac aelodau Clwb Criced Trefaldwyn yn chwilio am Mr Corfield a fu ar goll am rai dyddiau.
Cafwyd hyd i'w gorff yn Afon Gwy bum niwrnod yn ddiweddarach.
Cafodd yr arwerthiant ei gynnal yn farchnad anifeiliaid y Trallwng.
Ar 么l y digwyddiad cyhoeddodd Cyngor Powys eu bod yn sefydlu Gr诺p Gweithredu Diogelwch Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru er mwyn "helpu i wella diogelwch y bobl sy'n dod i'r Sioe, y Pentref Ieuenctid, Penmaenau a Llanfair-ym-Muallt".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Awst 2017
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2017