Addysg plant mewn gofal: 'Angen mwy o gefnogaeth'

Mae angen mwy o gefnogaeth i blant mewn gofal yng Nghymru er mwyn gwella eu perfformiad yn yr ysgol, yn 么l elusen.

Yn 么l ffigyrau fe wnaeth plant mewn gofal berfformio'n waeth ym mhob cyfnod o'r ysgol yn 2015-16.

Dywedodd elusen Action for Children bod "loteri c么d post" yngl欧n 芒'r gefnogaeth sydd ar gael.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod 拢4m yn cael ei wario ar gynllun i gefnogi plant mewn gofal.

Roedd 3,648 o blant oed ysgol mewn gofal yng Nghymru ar ddiwedd Mawrth 2016.

Mae cyfrifiad Plant Mewn Angen 2016 yn dangos bod y gwahaniaeth mwyaf rhwng perfformiad yng Nghyfnod Allweddol 4, pan mae plant yn astudio cyrsiau TGAU.

23% o blant mewn gofal oedd wedi cyrraedd y graddau disgwyledig, ac roedd y gyfran ar gyfer yr holl blant yn 60%.

Roedd hyn yn welliant ar lefelau'r flwyddyn gynt, ond roedd y gwahaniaeth yn sylweddol.

'Profiadau trawmatig'

Dywedodd Danielle Cope o Action for Children fod llawer o blant mewn gofal wedi cael "profiadau trawmatig fel camdriniaeth, esgeulustod, colled ac amhariad ar eu haddysg".

"Yn anffodus, mae'r ffigyrau yma yn adlewyrchu rhan fechan o'r effaith mae'r trawma cynnar yma yn gallu ei gael," meddai.

"Gyda phresenoldeb ysgol isel, canlyniadau addysg gwael a bywyd cartref anghyson, mae'n debygol y bydd y plant yma yn symud i'w bywydau heb y sgiliau sydd eu hangen i reoli eu hemosiynau a delio gyda phwysau bywyd oedolyn."

Ychwanegodd ei fod yn "hollbwysig" bod Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy i leddfu effaith y trawma yma drwy gynyddu mynediad i gefnogaeth arbenigol i ddelio gyda'u hanghenion iechyd meddwl ac emosiynol.

"Mae hi fel loteri c么d post o wasanaethau gwahanol sy'n cael eu cynnig gan awdurdodau gwahanol dros Gymru."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd yr Athro Sally Holland bod plant angen "sefydlogrwydd, cefnogaeth a pherthnasau positif"

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, ei bod wedi cwrdd 芒 phob awdurdod lleol yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf i drafod sut i gynnig mwy o gefnogaeth i bobl ifanc.

Ychwanegodd yr Athro Holland y dylai awdurdodau lleol fod yn "anelu at eu helpu i symud heibio'r profiadau cynnar yna a chyflawni eu potensial".

"Ni allwn ddisgwyl i blant lwyddo yn academaidd os ydyn nhw'n poeni am bethau fel diffyg cefnogaeth emosiynol, arweiniad neu lle fyddan nhw'n byw.

"Mae plant angen sefydlogrwydd, cefnogaeth a pherthnasau positif gyda'r oedolion o'u cwmpas er mwyn llwyddo."

'Sicrhau'r un cyfleoedd'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "gweithio i sicrhau bod plant, o bob cefndir, yn cael cyfle teg i gyrraedd eu potensial".

"Mae'n rhaid i blant mewn gofal gael yr un cyfleoedd 芒'u cyfoedion.

"Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gweld gwelliant gwych mewn canlyniadau TGAU rheiny mewn gofal, ond rydyn ni'n cydnabod bod llawer mwy i'w wneud."

Ychwanegodd bod cynlluniau'r llywodraeth wedi eu cefnogi gan gyllid o 拢4m.